Â鶹Éç

Meinir

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Meinir yn siarad am ei chanser terfynol a'i theimladau hi.

Mae canser ar Meinir ac erbyn hyn mae hi'n un o'r cleifion yn yr hosbis. Ers i Meinir Evans dderbyn y newyddion chwe mis yn ôl bod canser arni, bu'n bur wael. Meinir yw un o gleifion ieuengaf yr hosbis - mae hi'n 45 oed ac yn fam i dri o fechgyn. Mae ganddi fath prin a ffyrnig iawn o ganser, sef canser genynnol y fron. Cafodd sgan CT ar y corff a ddangosodd fod y canser wedi mynd i'r esgyrn a'r ysgyfaint. Cafodd gemotherapi ac roedd hwnnw'n anodd iawn. Roedd hi'n meddwl y buasai'n iawn ar ôl y driniaeth cemo, ond cafodd sioc. Gwelwn nyrs yr hosbis, Manon Jones yn siarad am y cleient a'i theulu, a'u ffyrdd nhw o ymdopi. Mae ganddi gylch da o bobl sy'n gofalu amdani, gan gynnwys yr hosbis. Yn ôl Meinir, ni all roi gorau iddi - allai hi byth ddibynnu ar beth mae'r doctoriaid yn ei ddweud yn unig. Mae hi'n cymryd yr awenau yn ei dwylo hi ei hun nawr, ac yn brwydro ymlaen.
O: O Flaen Dy Lygaid - Yr Hosbis
Darlledwyd yn gyntaf : 12 Mehefin 2007

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Gofal yn yr Hosbis, Twf a Datblygiad Dynol

Allweddeiriau : Salwch a Gofal, Canser y fron, Hosbis, Gofal teulu, Egwyddorion gofal

Nodiadau : •Trafodwch sut mae hosbis yn wahanol i ysbyty. Ym mha ffordd mae'r gofal a geir mewn hosbis yn wahanol? • Mae gweithio mewn hosbis yn swydd anodd - yn emosiynol, corfforol a meddyliol. Mae'n cymryd person arbennig iawn i wneud swydd fel hon. Rhestrwch y mathau o rinweddau rydych chi'n teimlo y byddai eu hangen ar unigolyn i weithio mewn hosbis. • Mae Meinir yn dioddef o ganser terfynol. Beth sydd gan yr hosbis i'w gynnig i Meinir a'i theulu o ran egwyddorion gofal?


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.