Â鶹Éç

Marwolaeth

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Teuluoedd Alex, Bethan a Heledd yn disgrifio sut y bu'r tri farw.

Tri chyfweliad sy'n canolbwyntio ar farwolaeth a galar. TAD A MAM HELEDD - Nid oedd Heledd wedi bod yn achwyn rhyw lawer, ond pan aeth hi i mewn i gael llawdriniaeth, fe ganfuwyd bod canser arni. Ar yr 2il o Ragfyr cafodd lawdriniaeth arall, ac yna daliodd MRSA. 'Doedd dim gobaith iddi wedyn'. Ar y diwrnod y bu farw, mae ei rhieni'n cofio ei bod wedi mynd yn anymwybodol am 4.15yp, ac yna bod ei hanadl yn mynd yn llai a llai o hyd. CHRIS (cymar Alex a fu farw) - Roedden nhw ar eu gwyliau blynyddol ym mis Awst yn Bali, Indonesia. Y diwrnod hwnnw, roedden nhw wedi codi i fynd i'r traeth. Aeth Alex i'r môr. Roedd e'n chwarae yn y dŵr pan ddilynodd Chris ef. Roedd Chris wedi neidio i mewn ond cafodd ei ddal mewn rip tide ac roedd yn boddi. Ar y cychwyn, roedd Alex yn meddwl ei fod e'n ffugio. Yn sydyn, roedd y ddau'n boddi. Mae Chris wedyn yn cofio bod rhywun wedi'i helpu allan o'r dŵr a'i fod wedi gorwedd ar y traeth yn anymwybodol am sbel, cyn cychwyn chwydu dŵr môr. Mae e'n cofio wedyn gweld pobl yn cario Alex i'r traeth, ond roedd e wedi marw.TAD A MAM BETHAN - Cafodd Bethan ei ffit gyntaf ar ddydd San Ffolant, 1995. Y noson cyn i Bethan farw, roedd wedi mynd i aros â'i thad-cu. Dywedodd y meddyg bod y ffit yn un mewn miliwn. Roedd hi wedi bod yn gweiddi, 'Nos dawch, lyf iw'. Roedden nhw wedi bod yn gweiddi arni i fynd i'w gwely, heb unrhyw syniad beth oedd ar fin digwydd. Roedd ei thad yn ei waith pan ddaeth y rheolwr ato tua 2.45 y prynhawn i ddweud bod angen iddo fynd adref gan fod ei ferch wedi cael ffit. Yn y tŷ, roedd Bethan ar y llawr a'r parafeddygon wrth ei hochr. Roedden nhw'n defnyddio'r 'offer sioc' i geisio ailgychwyn ei chalon, ac wrth iddo edrych ar y parafeddyg a'i weld yn ysgwyd ei ben, roedd e'n gwybod bod Bethan wedi marw.
O: O'r Galon - Galar
Darlledwyd yn gyntaf : 7 Ebrill 2007

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Iechyd Meddwl, Galar, Perthnasau a Theuluoedd

Allweddeiriau : Cownsela, Cyngor,Colli cymar, Galaru,Egwyddorion gofal, Mathau o wasanaeth gofal, Gofal arbenigol

Nodiadau : •Trafodwch gynnwys y clipiau gan ystyried y gwahanol sefyllfaoedd, y teuluoedd a'r galar maen nhw'n ei brofi. • Pa gymorth sydd ar gael i deuluoedd sy'n galaru? • Wrth ystyried y ffactorau sy'n effeithio ar ansawdd bywyd unigolion - disgrifiwch sut mae profedigaeth yn gallu effeithio ar fywyd pobl a) yn y tymor byr a b) yn y tymor hir? •Ymchwiliwch i grwpiau gwirfoddol neu sefydliadau sy'n cynnig cymorth i bobl wrth iddyn nhw ddelio â phrofedigaeth a chyflwynwch eich darganfyddiadau i'r grŵp.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.