Â鶹Éç

Galaru

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Mam Bethan a Chris yn disgrifio sut beth yw galar.

Ceir cyfweliad â rhieni Bethan, a chyfweliad byr â Chris, cymar Alex. MAM BETHAN - tra roedd hi'n cael ei chwnsela, roedd yn teimlo ei bod yn dod yn ei blaen yn dda iawn. Ond wedyn rhyw flwyddyn neu ddwy ar ôl colli Bethan, buodd adref o'r gwaith am chwe mis gydag iselder. Roedd fel petai rywbeth wedi ei 'hitio ar dop ei phen, yn galed iawn.' Dyna pryd y sylweddolodd faint o glec roedd colli Bethan wedi bod mewn gwirionedd. Wrth drefnu'r angladd, roedd hi wedi gofyn i Carys, chwaer Bethan, beth oedd hoff gan Bethan. Awgrymodd Carys y gân 'Hawl i Fyw', gan ei bod wedi gwneud tâp o'r gân ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Felly, hwn gafodd ei chwarae wrth i Bethan gael ei chario allan o'r angladd. Mae ei Mam yn dweud ei bod fel petai'n medru clywed ei llais yn y gân. CHRIS - mae pobl yn dweud wrtho o hyd mai amser sydd ei angen. Ond nid yw Chris yn credu bod amser yn gwella bob clwyf, mae angen gweithio arno i'w wella. Dywedodd ei fod fel torri braich - mae'n waith caled trin y clwyf.
O: O'r Galon - Galar
Darlledwyd yn gyntaf : 7 Ebrill 2007

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Iechyd Meddwl, Galar, Perthnasau a Theuluoedd

Allweddeiriau : Colli plentyn, Colli cymar, Gofal arbenigol, Gofal teulu, Cownsela, Iselder

Nodiadau : •Mae Mam Bethan yn sôn ei bod wedi ymweld â chwnselydd ar ôl marwolaeth ei merch. Sut yn eich barn chi fyddai cwnsela wedi bod o fudd iddi? Pa wasanaethau tebyg sydd ar gael i deuluoedd sydd wedi cael profiad o alar? •Mae iselder ysbryd yn salwch cyffredin iawn, yn enwedig pan fo person yn galaru. Pa driniaethau gwahanol sydd ar gael ar gyfer y salwch hwn?


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.