Â鶹Éç

Atal Dweud yn yr Ysgol

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Atgofion o fywyd gydag atal dweud yn yr ysgol - agwedd yr athro.

Mae Martin yn cofio un profiad amhleserus iawn a gafodd yn yr ysgol oherwydd ei atal dweud. Roedd e'n 13 oed ac roedd yr athro Cymraeg wedi gofyn iddo ddarllen yn uchel. Roedd Martin wedi esbonio bod atal dweud arno, ond dywedodd yr athro wrtho fod ei leferydd e'n eithaf da a mynnodd fod Martin yn sefyll ar ei draed i ddarllen. Nid oedd Martin yn gallu yngan yr un gair. Roedd e'n gweld y geiriau ond yn methu eu dweud nhw. Roedd y plant yn y dosbarth yn chwerthin, ac mae Martin yn cofio bod hyd yn oed yr athro yn chwerthin.
O: O'r Galon - Martin Thomas
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mawrth 2007

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ABCh

Testun : Iechyd Meddwl, Cyfathrebu, Twf a Datblygiad Dynol, Iechyd a Lles Emosiynol

Allweddeiriau : Atal Dweud, Rhaglen McGuire, Agwedd tuag at anabledd,

Nodiadau : •Roedd hyn yn brofiad erchyll i Martin. Sut dylai'r ysgol fod wedi delio â'r mater hwn? • Sut yn eich barn chi oedd Martin yn teimlo ar ôl y digwyddiad hwn? Beth fyddai'r digwyddiad hwn wedi ei wneud i hunanhyder Martin? • Pa strategaethau ddylai'r ysgol fod wedi eu rhoi yn eu lle er mwyn helpu Martin i oresgyn y rhwystrau roedd yn eu hwynebu?


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.