Â鶹Éç

Byw mewn Lle Oer: Mudo gydag Anifeiliaid

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Bugeiliaid ceirw'n mudo'n flynyddol ar hyd llwybrau hynafol.

Bugeiliaid ceirw yw pobl y Sami. Dros yr haf maen nhw'n cadw eu ceirw ar Ynys Arnoy, oddi ar arfordir gogledd Norwy. Nawr mae hi'n hydref a chyn hir bydd yr ynys dan eira trwm. Wedyn ni fydd y ceirw'n gallu cyrraedd y planhigion mae eu hangen arnyn nhw i gadw'n fyw. O ganlyniad, rhaid i'r Sami symud y ceirw i'r tir mawr cyn y gaeaf. Mae tair mil o geirw yn cychwyn mudo, gan orfod nofio dau gilometr a hanner ar draws y môr i gyfeiriad y tir mawr!
O: Human Planet Arctic: Life in the Deep Freeze
Darlledwyd yn gyntaf : 27 Ionawr 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 7-9,9-11,14-16

Pwnc : Daearyddiaeth, Cymdeithaseg

Testun : Ardal gyferbyniol, Ecosystemau, Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Diwylliant, Ynysoedd, Mynyddoedd, Cymdeithaseg byd-eang, Diwylliant a chymdeithasoli

Nodiadau : DAEARYDDIAETH:Cyn gwylio'r clip, gofynnwch i'r disgyblion ddod o hyd i leoliad Llychlyn a Norwy ar fap. Rhowch ddiffiniad o 'nomadig' i dri disgybl eu darllen i weddill y dosbarth. Un o'r tri diffiniad sy'n gywir a rhaid i'r disgyblion bleidleisio pa un. Gadewch iddyn nhw wylio'r clip cyn cyhoeddi pa ateb sy'n gywir. Ar ôl gwylio'r clip gallai'r disgyblion fapio llwybrau mudo anifeiliaid eraill, gan weld pa mor bell maen nhw'n teithio, o ba fath o hinsoddau maen nhw'n dianc a pha fath o beryglon maen nhw'n eu hwynebu, ac ati. Gallai'r disgyblion ysgrifennu darn estynedig, e.e. dyddiadur anifail sy'n mudo. CYMDEITHASEG: • Beth yw ystyr y term 'diwylliant'? • Beth yw prif nodweddion diwylliant? • Sut gall nodweddion diwylliannol newid yn ôl lle, ardal ac amser? • Nodwch ac eglurwch brif nodweddion diwylliant. • Nodwch ac eglurwch bwysigrwydd diwylliant. • Mae diwylliant yn bwysig wrth ystyried hunaniaeth. Trafodwch.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.