Â鶹Éç

Dyfroedd Cynaliadwy: Addasu i'r Amgylchedd

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Cymuned Bajau Laut yn cyd-fyw â'r môr sy'n hanfodol i'w bywydau.

Cyflwyniad i gymuned y Bajau Laut yn Indonesia, sydd â'u bodolaeth yn dibynnu'n llwyr ar y cefnfor. Gan fyw ar y dyfroedd cwrel sy'n llawn maetholion, mae'r Bajau wedi datblygu dulliau pysgota traddodiadol sy'n addas i'w hamgylchedd unigryw. Cawn gwrdd â Sulbin, heliwr tanddwr, sydd ei hun yn dystiolaeth fyw o sut mae'r gymuned hon wedi addasu i fywyd ar wyneb y môr.
O: Human Planet Oceans - Into the Blue
Darlledwyd yn gyntaf : 13 Ionawr 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16

Pwnc : Daearyddiaeth, Cymdeithaseg

Testun : Arfordiroedd, Ardal gyferbyniol, Ecosystemau, Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Rheoli ecosystemau, Pobl a'r amgylchedd, Ynys Sulawesi, Bajau Laut, Indonesia, Cymdeithaseg byd-eang, Diwylliant a Chymdeithasoli,

Nodiadau : DAEARYDDIAETH:Dewch o hyd i leoliad Ynys Sulawesi ar fap. Gallai'r disgyblion gymharu eu bywyd nhw â gorfod byw trwy hela i gael cynhaliaeth, gan ddibynnu'n llwyr ar ecosystem gefnforol. Cyflwynwch y cysyniad o gadwraeth. Defnyddiwch y clip i ddangos sut mae pobl yn ymaddasu i amgylchedd unigryw. CYMDEITHASEG: • Trafodwch sut mae bywyd y Bajau Laut yn wahanol i fywyd yng Nghymru. • Beth sy'n debygol o fod yn gyffredin rhwng y Bajau a phobl Cymru? • Mae anthropolegwyr yn astudio pobl yn eu hamgylchedd naturiol. Ymchwiliwch hanes un anthropolegydd enwog. • Esboniwch a dadleuwch Natur v Magwraeth. • Nodwch ddau reswm pam byddai cymdeithasegwyr yn cefnogi'r ddadl 'Magwraeth'.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.