Â鶹Éç

Rhown Derfyn ar Dlodi

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Richard Jones yn ymweld a Tansania fel rhan o ymgyrch S4C

Cyflwyniad i ymgyrch 'Rhown Derfyn ar Dlodi' ac Oxfam sy'n cefnogi plant yn Tansania. Mae'n dechrau gyda chefndir y cynllun ac yna'n dangos clip byr o ymweliad un o'r gweithwyr â'r wlad.
O: Taro Naw - Tanzania

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Cymdeithaseg

Testun : Cymuned a ddiwylliant, Cymdeithaseg byd-eang

Allweddeiriau : Rhown Derfyn ar Dlodi, Cymdeithaseg byd-eang, Dinasyddiaeth byd-eang, Tansania, Tlodi a chymorth, Yr Affrig,

Nodiadau : PYNCIAU TRAFOD • Trafodwch effeithiau tlodi ar blant. • Ydych ch'n credu bod y gwledydd datblygedig yn gwneud digon i gynorthwyo'r gwledydd sy'n datblygu? Cofiwch fod angen cyfiawnhau eich sylwadau. • Beth yw ystyr nwyddau 'masnach deg'? Ydych chi'n ymwybodol o rai - pa rai? GWAITH ESTYNEDIG • Sut mae cymdeithasegwyr yn diffinio tlodi? • Darganfyddwch fwy am fasnach deg. Nodwch fanteision masnach deg i bobl mewn gwledydd sy'n datblygu.• Casglwch wybodaeth am Tansania. Nodwch rai ffeithiau am dlodi yn y wlad a'i effaith ar fywyd y bobl.• Ymchwiliwch i gefndir y cynllun ' Rhown derfyn ar dlodi'. ADOLYGU • Trafodwch effaith tlodi ar siawnsiau bywyd. • Trafodwch resymau sy'n gallu egluro pam nad yw elw o adnoddau lleol yn cyrraedd y boblogaeth leol. • Aseswch y farn bod cymorth yn annog dibyniaeth.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.