Â鶹Éç

Dawnsio

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Lara yn cael gwahoddiad i ddisgo gan Marc. Ond yn colli'r bws olaf adref.

Mae Lara (12) ar ben ei digon pan mae bachgen o'r enw Marc yn ei gwahodd i ddisgo o dan 18. Mae hi'n perswadio ei 'mam ym Mhatagonia' i adael iddi fynd, ar yr amod y bydd Lara yn ei ffonio pan fydd hi'n cyrraedd y disgo a phan fydd hi'n mynd ar y bws olaf adref.
Yn y cyfamser, mae Gabriel (13) a Tony (13) wedi eu brifo bod y merched wedi anghofio amdanyn nhw er mwyn mynd i'r disgo, yn enwedig am eu bod wedi cytuno i dreulio'r noson yn sgrialu. Ond pan mae diflastod yn eu taro, maen nhw'n sylweddoli nad oes dim byd yn eu hatal nhw rhag mynd i'r disgo hefyd.
Yn y disgo, mae Lara'n gweld Marc o'r diwedd ac wedi mopio'i phen yn lân drosto, nes anghofio ffonio adref. Mae Lara yn ysu am gael dod i adnabod Marc yn well, felly mae hi'n perswadio'r merched i aros yn hirach nag y dylen nhw.
Yn y diwedd, mae Lara yn cytuno i adael y disgo ond yn sylweddoli wedyn eu bod wedi colli'r bws olaf adref. Diolch i'r drefn, maen nhw'n gweld Tony a Gabriel, sy'n pryderu amdanyn nhw ac yn aros amdanyn nhw wrth yr arhosfan.
Heb ddewis arall, maen nhw'n ffonio 'mam ym Mhatagonia' Lara i ddod i'w nôl nhw. Ar ôl cyrraedd adref, sylweddola Lara ei bod wedi siomi ei 'mam ym Mhatagonia', a'i ffrindiau, ac mae hi'n addo peidio ag anghofio am ei chyfrifoldebau yn y dyfodol.
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol,Cadw'n Diogel, Perthnasau

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Cyfeillgarwch, Glasoed, Rheolau diogelwch, Pwysau gan gyfoedion, Aeddfedu

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon i sbarduno trafodaeth am gyfrifoldeb personol. Mae'r plot yn arwain yn naturiol at holi'r dosbarth 'Beth fyddech chi'n ei wneud?' er mwyn archwilio beth arall allai fod wedi digwydd i'r cymeriadau. Mae hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer cychwyn trafodaeth ar ddiogelwch personol a risg.


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill
• ymwrthod â phwysau diangen gan gyfoedion
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
a deall:
• eu cyfrifoldebau
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
• bod gweithredoedd personol yn esgor ar ganlyniadau
• sefyllfaoedd sy'n esgor ar wrthdaro
• pwysigrwydd diogelwch personol

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• dangos agwedd gyfrifol at gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel
• datblygu hunan-barch a pharch tuag at eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• bod yn bendant ac ymwrthod â phwysau diangen gan gyfoedion
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
a deall:
• yy ystod o emosiynau y maent yn eu profi.

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.