Â鶹Éç

Mae Cariad yn Boen

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Tony wedi disgyn am Brenda, merch o'r ysgol, ac yn anfon fideo o gân serch iddi.

Mae Tony (13) wedi disgyn am Brenda (12), merch o'r ysgol. Yn ddiarwybod i'w ffrindiau, mae'n penderfynu datgan ei deimladau yn y gobaith na fydd Brenda'n gallu dweud na. Mae'n brysio adref, yn recordio ei hun yn canu cân gariad arbennig ac yn e-bostio'r fideo at Brenda ar unwaith.
Y diwrnod canlynol, mae Brenda yn agor y neges, ynghyd â phawb arall yn y dosbarth; roedd Tony wedi anfon ei fideo at bawb mewn camgymeriad! All Brenda ddim credu ei fod wedi gwneud hyn; mae hi'n gynddeiriog, ac yn rhuthro allan mewn tymer gan adael Tony yn teimlo'n fach a digalon. Ceisia Llion (13) a Gabriel (13) ddangos iddo fod ei fideo wedi mynd dros ben llestri a bod ei rannu gyda'r dosbarth wedi codi cywilydd ar Brenda. Ond dim ond teimlo trueni drosto'i hun mae Tony ac na fydd byth yn gallu dod dros hyn.
Mae Lara (12), Akira (12) a Monica (11) yn gweithio'n brysur ar eu haseiniad i gynhyrchu dyddiadur fideo, pan maen nhw'n dod o hyd i Brenda'n llefain yn y tai bach. Maen nhw'n siarad gyda hi am yr hyn ddigwyddodd, ac er ei bod yn dal yn bryderus, mae Brenda'n dechrau sylweddoli nad oedd Tony wedi codi cywilydd arni'n fwriadol. Mae Tony'n ceisio magu hyder i ymddiheuro i Brenda; efallai nad oes ganddo fawr o obaith bod yn gariad iddi hi ond o leiaf mae'n cael cyngor cyfeillgar ganddi ar sut orau i blesio merch y tro nesaf.
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Perthnasau

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Cyfeillgarwch,Pwysau gan gyfoedion, E-bost, Digidol, Cyfryngau, Glasoed

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon i archwilio beth ydy ymddygiad derbyniol rhwng ffrindiau a beth yn union ydy cyfathrebu da. Mae hefyd yn defnyddiol fel ffordd o gyflwyno'r pwnc ehangach o rannu delweddau a chynnwys digidol dros y we, nail ai mewn fforymau , ar fyrddau negeseuon neu drwy e-bost.


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• defnyddio TGCh mewn modd diogel
a deall:
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• bod gweithredoedd personol yn esgor ar ganlyniadau
• sefyllfaoedd sy'n esgor ar wrthdaro
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro
• defnyddio TGCh mewn modd diogel a chyfrifol
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.