Â鶹Éç

Nofio'n erbyn y Llif

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Gabriel yn gadael ei ffrindiau i lawr

Mae ysgolion yr ardal leol yn cynnal gala nofio ac mae'r grŵp o ffrindiau'n cymryd rhan; Llion (13) ydy capten y tîm, ac mae Tony (13), Gabriel (13) ac Akira (12) yn rhan o'r tîm hefyd. Ond mae problem; mae Gabriel yn teimlo'n hollol effro gyda'r nos, yn aros ar ei draed yn hwyr ac felly'n cysgu'n hwyr yn y bore. Yn yr ymarfer, mae Monica (11) yn llawn cyffro am gael cymryd lle Gabriel sy'n hwyr yn cyrraedd. Ond pan mae Monica ar fin nofio, mae Gabriel yn cyrraedd ac mae Monica yn gorfod mynd yn ôl ar y fainc. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd, ac mae Monica'n gadael wedi digio.
Ar ddiwrnod y ras, er gwaethaf ymdrechion Tony i sicrhau bod Gabriel yn cyrraedd ar amser, dydy Gabriel ddim yn cyrraedd y pwll. Pan fydd ar Llion a gweddill y tîm angen Monica, mae ei balchder yn dweud wrthi hi i beidio â helpu ei ffrindiau. Ond mae Monica'n ysu am gael nofio, a chyn bo hir mae hi yn y pwll yn rasio yn erbyn y timau eraill. Yn anffodus, dydyn nhw ddim yn ennill, ond mae'r ffrindiau'n sylweddoli beth oedd yn y fantol mewn gwirionedd. Mae Gabriel wedi siomi ei ffrindiau, ac roedd y lleill yn rhy brysur yn meddwl am y gala nofio i ystyried teimladau Monica. Ond gan eu bod yn ffrindiau, maen nhw i gyd yn maddau i'w gilydd yn hawdd. Wedi'r cyfan, does neb yn berffaith.
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Iechyd a Lles Emosiynol, Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Cadw'n Iach

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Cyfeillgarwch,Hormonau,Cwsg

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon i sbarduno trafodaeth am bwysigrwydd cwsg, gorffwys ac adferiad da. Mae hefyd yn ddefnyddiol wrth ystyried sut i reoli cyfeillgarwch, gwaith tîm a helpu eich cyfoedion.


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach
• teimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill

a deall:
• y nodweddion a manteision corfforol ac emosiynol sy'n gysylltiedig â ffordd iach o fyw
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
• sefyllfaoedd sy'n esgor ar wrthdaro
• bod gweithredoedd personol yn esgor ar ganlyniadau.

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddangos agwedd gyfrifol at gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach
• datblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol.

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.