Â鶹Éç

Cyfaill Cŵl Gabriel

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Teo - ffrind newydd Gabriel. Lleidr neu foi cŵl?

Mae'r ffrindiau ar eu ffordd i'r ysgol ond mae Gabriel (13) yn cerdded heibio iddyn nhw ac yn ymuno â'i ffrind newydd hŷn, Teo yng nghefn y bws. Mae Gabriel wedi bod yn treulio llawer o amser gyda Teo yn ddiweddar, gan efelychu ei steil e. Fe wnaeth hyd yn oed berswadio Teo i roi tatŵ ffug iddo.
Mae teimladau Tony (13) wedi'u brifo; dydy Gabriel ddim yn treulio amser gydag ef nac yn ei gynnwys yn ei gynlluniau. Mae'r merched yn cydymdeimlo, ond pan ddaw'r Merched Cŵl ar y bws, mae sylw Monica (11) arnyn nhw ar unwaith; ond mae'r Merched Cŵl yn llawn dirmyg ac yn chwerthin ar steil gwallt Monica.
Eistedda Monica â'i phen yn ei phlu a dechrau ail-wneud ei gwallt. Mae hi'n mynd drwy gyfres o steiliau gwallt anarferol yn ei hymdrechion i greu argraff ar y Merched Cŵl.
Pan fydd Gabriel yn methu'r ysgol, penderfyna'r ffrindiau siarad gydag ef cyn iddo fynd i mewn i helynt. Maen nhw'n dod o hyd iddo yn y ganolfan siopa gyda Teo, lle maen nhw'n sylweddoli y gallai Gabriel fod mewn mwy o helynt nag yr oedden nhw wedi meddwl; mae Teo yn lladrata o siopau. Maen nhw'n tynnu llun o Teo yn dwyn ac yn ei ddangos i Gabriel; mae'n gwybod na all wadu beth mae Teo yn ei wneud ond mae'n colli limpyn ac yn gadael wedi'i siomi a'i wylltio.
Yn ddiweddarach, mae Gabriel yn gweld ei ffrindiau mewn caffi yn cael hwyl hebddo. Mae ganddo ormod o gywilydd i ymuno â nhw ond mae Tony yn ei ddilyn ac yn ei berswadio i ddod yn ôl at y grŵp. Ymddiheura Gabriel am ei ymddygiad ac mae hyd yn oed yn llwyddo i chwerthin pan mae'n dangos y 'tatŵ' sydd bellach yn ddim byd ond staen budur ar ei fraich lle mae'r inc wedi rhedeg. Ar ôl cymodi, mae'r ffrindiau'n dod at ei gilydd i helpu Gabriel i ddychwelyd yr eiddo gafodd ei ddwyn. Mae Monica wedi dod o hyd i'r guddwisg berffaith iddyn nhw i gyd; ac yn ddiarwybod iddi hi, mae hi'n creu argraff dda ar y Merched Cŵl ar yr un pryd.
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Materion Moesol Cymdeithasol a Diwylliannol

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Cyfeillgarwch,Pwysau gan gyfoedion, Moesau

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon i gychwyn trafodaeth ar bwysau gan gyfoedion a hefyd mae'n ffordd dda o ystyried ymddygiad negyddol a chadarnhaol. Gallai fod o ddefnydd i ystyried sefyllfa Gabriel ac archwilio beth arall allai fod wedi digwydd i'r gwahanol gymeriadau.


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• archwilio'u gwerthoedd personol
• bod yn onest ac yn deg a pharchu rheolau, y gyfraith ac awdurdod
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell
• o gymorth i'w gilyddymwrthod â phwysau diangen gan gyfoedion
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
a deall:
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
• sefyllfaoedd sy'n esgor ar wrthdaro
• bod pobl yn wahanol i'w gilydd o safbwynt eu barn am yr hyn sy'n dda a'r hyn sy'n ddrwg
• bod gweithredoedd personol yn esgor ar ganlyniadau

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• bod yn bendant ac ymwrthod â phwysau diangen gan gyfoedion
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
a deall:
• agweddau allweddol ar y system cyfiawnder troseddol a'r modd y maent yn berthnasol i bobl ifanc
• y gweithredoedd sy'n dda ac sy'n ddrwg yn eu barn hwy, a'r problemau moesol sy'n gysylltiedig â sefyllfaoedd bywyd

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.