Â鶹Éç

Ffrindiau 'n Unig

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Lara a Gabriel yn cael eu cusan gyntaf. Jyst ffrindiau?

Mae'r criw yn mynd i nofio ac wrth y pwll mae'r sgwrs yn troi at gusanu. Cerdda Max (16) heibio i Monica (11) gan honni ei fod wedi cusanu'r rhan fwyaf o'r merched yn y pwll. Mae Tony (13) yn llawn edmygedd, ond mae Monica yn torri'i chalon gan ei bod wedi gwirioni ar Max. Mae Lara (12) a Gabriel (13) yn siarad am dwpdra Max a'i frolio gwirion, ac yna'n gwbl annisgwyl... yn cusanu ei gilydd! Yn syth ar ôl cusanu, maen nhw'n mynd i banig llwyr ac yn rhedeg i guddio. Mae Lara yn gofidio, ac mae Gabriel yn poeni. Mae eu ffrindiau'n gweld y gusan o'r ochr arall i'r pwll ac yn awyddus i wybod ydy Lara a Gabriel yn gariadon nawr. Mae'n rhaid i Lara a Gabriel siarad â'i gilydd a bod yn agored am eu teimladau. Efallai y byddan nhw'n synnu eu ffrindiau, ond mae bod yn onest yn angenrheidiol i'w perthynas. A beth am Max? Mae e'n llwyddo i gusanu rhywun arall, ond rhywun annisgwyl.
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Perthnasau, Teimladau

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Glasoed,Hunanymwybyddiaeth, Datblygiad, Tyfu i fyny, Cusanu, Cyfeillgarwch

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon fel man cychwyn i archwilio perthnasau, ac yn arbennig sut mae cyfeillgarwch yn gallu newid wrth dyfu i fyny. Gallech hefyd ei defnyddio i drafod pwysau gan gyfoedion a sut i'w reoli.


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitive i deimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill
• ymwrthod â phwysau diangen gan gyfoedion
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
a deall:
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod glasoed
• bod gweithredoedd personol yn esgor ar ganlyniadau
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
a deall:
• yr ystod o emosiynau y meant yn eu profi.

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.

Gweler am ragor o wybodaeth.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.