Ar y We, Be'?
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Well i Tony chwarae gem cyfrifiadur na mynd allan 'da ei ffrindiau. Ydy fe'n adict?
All y ffrindiau ddim credu y byddai Tony yn treulio'i holl amser yn ei 'stafell yn chwarae gemau cyfrifiadur, felly maen nhw'n anfon Akira (12) i gael gair gydag ef. Er mawr siom iddyn nhw, mae'r gêm fideo yn bachu Akira hefyd. Aiff y sefyllfa mor wael, nes i Akira a Tony anghofio'r amser a methu'r gêm bêl-fasged.
Yn y cyfamser, mae Gabriel, Monica (11), Lara (12) a Llion (13) yn cael amser gwych yn y bencampwriaeth. Mae Gabriel hyd yn oed yn ennill cyfle i gwrdd â'i arwr pêl-fasged. A hwythau'n siomedig na ddaeth eu ffrindiau i'r gêm bêl-fasged, mae'r grŵp yn dangos i Akira a Tony beth maen nhw wedi'i golli. Gan deimlo'n ddigalon, mae'r ddau'n sylweddoli pa mor gaeth oedden nhw i'r cyfrifiadur ac yn addo defnyddio eu hamser mewn ffordd fwy adeiladol o hyn ymlaen.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 9-11,11-14
Pwnc : ABCh
Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol
Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Y We, Gemau fideo, Caeth
Nodiadau :
Gellir defnyddio'r stori hon i drafod cyfeillgarwch a sut i'w reoli'n briodol, ond gellir ei defnyddio hefyd i drafod ymddygiad caethiwus a'r ymddygiadau sy'n deillio o gaethiwed. Hefyd, gellir trafod sut i reoli amser yn briodol a chadw cydbwysedd rhwng adloniant a gwaith ysgol neu ymrwymiadau eraill. Gellir trafod bod y ffaith fod mwy a mwy o dechnolegau ac adloniant ar gael o hyd yn gwneud cadw cydbwysedd yn fwy o sialens.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• defnyddio TGCh mewn modd diogel gyda chymorth ac arweiniad.
a deall:
• y nodweddion a manteision corfforol ac emosiynol sy'n gysylltiedig â ffordd iach o fyw
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• sefyllfaoedd sy'n esgor ar wrthdaro
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb
Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• rheoli amser a bodloni terfynau amser
• defnyddio TGCh mewn modd diogel a chyfrifol
a deall:
• y manteision o gael mynediad i wahanol ffynonellau o wybodaeth, cymorth a chyngor.
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.