Â鶹Éç

Celwydd Bach Lara

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Gwers i Lara a Gabriel - dweud celwydd yn dda i ddim. Dweud y gwir sydd orau bob amser.

Mae Monica (11) wedi cyffroi'n llwyr am gystadleuaeth gwyddbwyll yr ysgol ac mae hi'n mynnu bod Lara (12) yn cystadlu - wedi'r cyfan, roedd Lara wedi brolio'n ddiweddar ei bod hi wedi ennill tlws am chwarae gwyddbwyll. Ond roedd Lara wedi dweud celwydd. Does gan Lara ddim clem sut mae chwarae gwyddbwyll!
Yn y cyfamser, dydy Gabriel (13) ddim wedi gwneud ei waith cartref, felly mae Gabriel a Tony (13) yn dweud celwydd wrth yr athrawes ac yn honni bod bag Gabriel wedi cael ei ddwyn. Mae'r euogrwydd yn ormod i Gabriel ac mae Tony yn ymbil arno i ymlacio rhag iddo adael y gath o'r cwd.
Drannoeth, waeth faint mae hi'n ymdrechu i golli, dydy Lara ddim yn gallu colli'r un gêm. Drwy lwc pur, mae hi'n ennill y gystadleuaeth. Ond ni all oddef yr euogrwydd o ddweud celwydd wrth bawb, felly mae hi'n gwrthod derbyn y tlws, ac yn cyhoeddi i'r ysgol gyfan ei bod wedi dweud celwydd.
Wedi'u hysbrydoli gan onestrwydd Lara, mae Gabriel a Tony hefyd yn cyfaddef eu bod wedi dweud celwydd. Mae Lara a Gabriel yn dysgu bod dweud celwydd yn dda i ddim, ac mai dweud y gwir sydd orau bob amser.
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Materion Moesol Cymdeithasol a Diwylliannol

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Cyfeillgarwch, Celwydd, Gonestrwydd, Glasoed,

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon i archwilio dilemâu moesol fel y rhai sy'n wynebu Lara, Gabriel a Tony. Mae hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer cychwyn trafodaeth am 'gelwydd golau' - faint o niwed mae'n ei wneud? Oes yna'r un fath beth â 'chelwydd bach' ?


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• archwilio'u gwerthoedd personol
• bod yn onest ac yn deg

a deall:
• sefyllfaoedd sy'n esgor ar wrthdaro
• bod gweithredoedd personol yn esgor ar ganlyniadau
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol
• y gweithredoedd sy'n dda ac sy'n ddrwg yn eu barn hwy, a'r problemau moesol sy'n gysylltiedig â sefyllfaoedd bywyd

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.