Â鶹Éç

O O B.O.!

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Gabriel yn drewi o 'B.O' ar ôl sesiwn chwaraeon.

Ar ôl sesiwn chwaraeon yn yr ysgol, mae Gabriel (13) yn mynd yn ôl i'r dosbarth heb gael cawod na newid ei grys-T. Mae'r merched yn sylwi bod Gabriel yn drewi. Mae e'n teimlo cywilydd, ond mae Tony (13) yn mynnu fod hyn yn arwydd ei fod e'n troi'n ddyn. Mae Gabriel yn meddwl ei fod wedi cael gwared ar yr aroglau drwy chwistrellu ffresnydd aer drosto, ond buan iawn y mae'n sylwi bod yr aroglau wedi dod yn ôl. Ble bynnag mae'n mynd, mae'r 'bwystfil B.O.' yn ei ddilyn, ac yn gwneud ei fywyd yn boen. Mae Tony a Gabriel yn gofyn cyngor Max (16) - wedi'r cyfan, mae'r merched yn ei addoli fe - a diolch i Max, mae Gabriel yn curo'r bwystfil B.O. unwaith ac am byth. Dim ond trueni bod Tony wedyn yn troi'n wahanol fath o fwystfil drewllyd, drwy fynd dros ben llestri gyda'r diaroglydd a'r eli eillio!
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Iechyd a Lles Emosiynol, Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Hunan-delwedd

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Glasoed, Tyfu i fyny, Embaras, BO, Aroglau corff

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon i drafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â hylendid personol ac, yn bwysicaf oll, gellir ei defnyddio i drafod hyder a hunan barch hefyd.


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach
• teimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitive i deimladau pobl eraill.
• gofyn am gymorth a chyngor personol
a deall:
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod glasoed
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
• sut mae gwerthoedd diwylliannol a chredoau crefyddol yn llywio'r ffordd y mae pobl yn byw

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddangos agwedd gyfrifol at gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• datblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol.

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.