Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tren O'r ardd i'r orsaf
Nid yn unig y mae Hywel Jones o Gwmdu ger Llandeilo yn arddwr brwd yn ei gartref ei hun ac yn feirniad mewn sioeau, ond mae diddordeb y gŵr o sir Gaerfyrddin yn mynd ymhellach na'r rhan fwyaf.

Y mae Hywel Jones wedi mabwysiadu gorsaf drenau Llanwrda, yn gyfrifol am y blodau yno.

"Fe wnes i fabwysiadu gorsaf drên Llanwrda gan taw dyma'r unig orsaf oedd heb ei mabwysiadu rhwng Llandeilo a Llanymddyfri ym Mehefin 2004. Yr oeddwn yn teithio ar drên i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, pan wnes gyfarfod ag un o benaethiaid Trenau Arriva Cymru. Deallodd fy mod yn frwd am dyfu a dangos blodau mewn sioeau, ac fe ofynnodd i mi a fyddem yn fodlon mabwysiadu gorsaf Llanwrda, oherwydd roedd yr orsaf yn weddol noeth o ran blodau. Cymerais at y gwaith yn fuan.

"Rwyf yn ymweld â'r orsaf yn wythnosol, yn cynnal a chadw y gerddi bach blodau, a rhoi gwybod i Trên Arriva Cymru am unrhyw ddifrod, fandaliaeth neu adfeiliad. Os oes yna fandaliaeth neu ddifrod yna rhaid cysylltu â'r Heddlu Trafnidiaeth.

"Ers mabwysiadu'r orsaf, rwyf wedi cwrdd â llawer yn mynd neu'n dod o'r trên a mor falch ydynt i weld y gerddi bach yn llawn blodau, yn enwedig yn yr haf.

Y tractor"Rwyf yn mwynhau'r gwaith yn fawr iawn, yn enwedig yn nosweithiau'r haf , ble mae yna dawelwch, a natur yn ei holl ogoniant, adar yn canu ac mae'n rhoi esgus i mi fynd allan am "run" i'r orsaf ar y 1952 Fergi fach llwyd sydd gennyf, gyda offer yr ardd yn y transport box."

Yn ogystal â gofalu am orsaf drenau Llanwrda, mae Hywel Jones yn wyneb adnabyddus mewn sioeau o amgylch de orllewin Cymru a thu hwnt, ers dros ugain mlynedd. Erbyn hyn, nid cystadlu yn unig sy'n mynd â'i fryd, ond mae ei brofiad helaeth ym myd garddio yn ei alluogi i fod yn un o'r beirniaid hefyd.

Gwobrau"Yn y blynyddoedd diwethaf rwyf yn cystadlu yn y sioeau mawr, er enghraifft Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Sioe Cymdeithas Gorllewin Dahlias Cymru yn Nantgaredig a Sioe y Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin.

"Mae'r amser yn brin i gystadlu oherwydd fy mod yn brysur, ar gyfartaledd rwyf wedi beirniadu mewn pymtheg sioe yn y blynyddoedd diwethaf. Hyd yn hyn, rwyf wedi cytuno i farnu mewn chwech sioe eleni. Mae eisiau cefnogi sioeau bach pentrefi cefn gwlad Cymru, er mwyn iddynt gael dyfodol llewyrchus.

  • Cliciwch yma i ddarllen cyngor garddio Hywel Jones - blodau pob tymor.


  • Lluniau
    Tywydd
    Trefi


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý