Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llanelli
TÅ· Llanelli TÅ· Llanelli
Yn Medi 2003, cyrhaeddodd TÅ· Llanelli rowndiau terfynol rhaglen Restoration y Â鶹Éç. Er na fu'n fuddugol, mae cynlluniau i ddatblygu yr adeilad hanesyddol unwaith yn rhagor.
Cyrhaeddodd TÅ· Llanelli rownd derfynol y gyfres deledu boblogaedd Restoration, a ddarlledwyd ar Â鶹Éç2 yn 2003. Cyflwynydd y gyfres oedd y Cymro a'r digrifwr Griff Rhys Jones, seren y gyfres Not the Nine O'Clock News.

Amcan y gyfres oedd adfer ac atgyweirio adeilad o bwysigrwydd hanesyddol cenedlaethol, a hynny o restr fer o 30 adeilad ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

Dyma TÅ· Llanelli yn cyrraedd y brig ar restr fer o 3 adeilad hanesyddol yng Nghymru a oedd werth eu hachub. Llwyddodd yr adeilad i fynd gam ymhellach hyd yn oed, gan gyrraedd y rownd derfynol ar Â鶹Éç2. Serch hynny, cwympo wrth y glwyd olaf oedd hanes TÅ· Llanelli, wrth iddynt golli allan ar y wobr gyntaf a gorffen yn barchus yn y trydydd safle.

Codwd yr adeilad cofrestredig Sioraidd yma yn y 1700au. Fe'i disgrifiwyd gan haneswyr fel esiampl o Gartref Sioraidd mwyaf ysblennydd Cymru. Etifeddwyd yr adeilad yn 1705 gan Margaret Vaughan a'i gŵr, Syr John Stepney o Pendergast. Roedd y cwpwl yn gyfrifol am nifer o ddatblygiadau chwyldroadol i'r adeilad. Mae cynllun a manylder y bensaerniaeth yn awgrymu y cwblhawyd eu gwaith adnewyddu uchelgeisiol oddeutu 1714.

Pasiodd y cartref ysblennydd yma drwy genhedlaethau o'r teulu Stepney, cyn cael ei drosglwyddo i awenau'r Cyngor Lleol yn 1965. Erbyn y cyfnod yma roedd wynepryd traddodiadol yr adeilad wedi ei difrodi yn sylweddol, â'r hen adeilad wedi colli tipyn o'i gymeriad a'i swyn. Priodolwyd hyn i esgeuluso gan y teulu ar hyd y blynyddoedd, ac o ganlyniad i'r gwaith adeiladu chwit-chwat a wnaethbwyd i'r adeilad yn yr ugeinfed ganrif.

Bellach, a hithau yn 2006, mae cyfres newydd o Restoration ar ein setiau teledu â 30 o adeiladau o arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol yn cystadlu i gael ei hadfer a'i hatgyweirio. Ond beth ddigwyddodd i drysor Tre'r Sosban? A gafodd y gyfres deledu unrhyw effaith ar yr ymgyrch i adfer yr adeilad hanesyddol prydferth yma?

Sefydlwyd cronfa gan y Cyngor i gasglu arian tuag at waith cynnal a chadw ar yr adeilad. Bu trigolion y dref yn garedig iawn wrth gyfrannu yn hael iawn i'r gronfa yma. Mae'r ffigwr yn parhau i chwyddo yn gyson. Cytunwyd y llynedd i wahardd cerbydau o Heol y Bont, Llanelli, a throi'r heol yn ardal pedestraidd i'r cyhoedd yn unig. Mae'r cynllun uchelgeisiol yma wedi derbyn grant o £1.3 miliwn oddi wrth Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, gyda'r bwriad o greu rhwydwaith o 11 adeilad cofrestredig arall ar hyd Heol y Bont.

Y gobaith yw y bydd gwahardd cerbydau a thraffig, yn ogystal a'r llygredd maent yn eu gynhyrchu, yn gam pwysig ac arwyddocaol i fedru dyrchafu TÅ· Llanelli yn ol i'w phriod le yn y dref. Ymhlith cynlluniau eraill a drafodwyd gan y Cyngor mae troi'r adeilad yn oriel gelf drawiadol neu o bosib yn amgueddfa leol.

Ar ôl bod mewn sefyllfa gwbwl anobeithiol cyn cyfres Restoration, mae'r dyfodol yn edrych dipyn disgleiriach i un o drysorau mwyaf ein cenedl.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Chwaraeon
Digwyddiadau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý