Pererindod i Soar y Mynydd.
Bu dydd Sul 2 Medi yn Sul i'w gofio i 32 o bobol o ardal Cwmdu. I lawr drwy ddyffryn Tywi, yng nghwmni dau aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin sef Jim Davies a Tom Theophilus.
Rhannodd Tom o'i wybodaeth eang o'r ardal wrth i ni deithio drwy ardal Cilycwm i Dregaron a chael dysgu llawer. Erbyn i ni gyrraedd Llyn Brianne roedd yn amser i gael byrbryd ac ail gychwyn ein taith i gyrraedd Soar y Mynydd erbyn un o'r gloch.
Roedd pawb yn edrych ymlaen i gyrraedd Soar y Mynydd ac ymuno mewn gwasanaeth o dan weinidogaeth y Parch D.Ben Rees Lerpwl.
Er mawr siom cawsom wybod bod Dr Rees yn methu bod yn bresennol, ond cawsom fendith arbennig o dan weinidogaeth y Parch Angharad Griffith, brodor o Bontiets ac yn arwain saith o eglwysi, chwech o'r Annibynwyr ac un o'r Wesleaid yn ardal Dolgellau a Dinas Mawddwy ers tair mlynedd. Roedd wedi teithio ar fys gyda 35 o aelodau o'r ofalaeth a da oedd deall bod ei rhieni wedi teithio o Bontiets i uno yn y gwasanaeth mewn capel yn llawn i'r ymylon erbyn dau o'r gloch.
Cychwynnwyd gyda'r emyn 'Pa le pa fodd dechreuaf' ar y dôn Penyryrfa ac i ddilyn, darlleniadau o Efengyl Luc Pennod 16 adnodau 1-8 a Iago Pennod 4 Adnodau 13-17 gan Gareth Wyn, un o ddiaconiaid gofalaeth Parch Angharad Griffith. Wedi'r oedfa, daeth i'n clyw mai mab Sarjant Sam Jones fu'n gwasanaethu gyda'r Heddlu yn Llansawel yn ystod y 50au oedd Gareth Wyn. Mae'n debyg mai'r ffugenw Sam Halt a gafodd gan y trigolion oherwydd iddo ddal nifer o droseddwyr yn anwybyddu'r Halt Sign.
Canwyd yr ail emyn 'Cymer Arglwydd f'einioes i' ar y dôn St Bees cyn i ni gael ein tywys, mewn gweddi, at orsedd gras, gan John Roberts, pregethwr cynorthwyol yr ofalaeth. Wedi canu'r trydydd emyn 'Efengyl Tangnefedd o hed dros y byd' ar y dôn Richmond Hill roeddem i gyd yn y cywair iawn i wrando ar neges rymus yn seiliedig ar adnodau13 a 14 o Bennod 4 Iago.
Cawsom ein hatgoffa mai Duw sydd yn trefnu ein bywydau. Yn ein prysurdeb tueddol ydym i wthio Duw allan o'n gweithgareddau, ond fel tarth mae ein bywydau yn hardd dros dro, ond heb Dduw yn diflannu yn sydyn. Bywyd ansicr yw bywyd heb Dduw yn rheoli. Cawsom fwyd i'r meddwl a neges i'n hatgoffa o'r gwirionedd ac wrth ganu'r emyn olaf 'Diolch i ti yr Hollalluog Dduw', daeth cyfle i ni ddatgan, ar gân, am yr Efengyl sydd â'r gallu i'n dwyn o'r carchar tywyll du i'r goleuni nefol.
Gan i ni golli allan ar ginio arferol dydd Sul, roedd pawb yn hapus o gyrraedd Gwesty'r Talbot yn Nhregaron lle'r oedd cinio rhost a phwdin wedi ei baratoi ar ein cyfer, cyn cychwyn ar y daith adre' drwy Lanbedr Pont Steffan a chyrraedd gartref erbyn chwarter i saith. Roedd pawb yn gytun mai syniad da fyddai trefnu pererindod debyg ar gyfer 2008.
Os am fanylion cysyllter â Hywel - ffôn 01558 685423.
Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn gan Hywel Jones.