Terry James o Brentwood yn Lloegr
Mae yr Eisteddfod yn dlws yng nghoron diwylliant balch Gymru, ac yr oeddem wedi mwynhau y tri diwrnod fedrais ymweld â'r wledd eleni dros ben.
Yr uchafbwyntiau i fi (a fy nheulu o Sir Benfro)oedd cyngerdd gwefreiddiol Catrin Finch a'i ffrindiau, Y Rhiban Glas Unawdwr, y Corau Mawr, a Dawnsio Gwerin i Phartiau. Hefyd wrth gwrs y seremoni angerddol o gadeirio'r bardd.
I Gymro balch, yr unig brofiad cymharol yn fy marn i, yw gweld Cymru yn ennill gem fawr rwgbi ar gae Stadiwm y Mileniwm.
Cai, Rowen
Rwy'n hoffi chwarae Rygbi ar y maes chwaraeon ac mynd o gwmpas y stondinau.
Hedd a Gwion o Eglwysbach a Rowen
'Da ni'n hoffi chwarae rygbi ar y maes chwaraeon.
Claire o San Cler
Wedi mwynhau mas draw ond nid wyf yn hoff iawn o'r llawr!!!
Dylan Rhys Parry o Gaernarfon
Llwchlyd ie wir. Ond mae'n werth dod yma i weld y pafiliwn pinc ac i weld y rhai sydd yn ffyddlon i'r eisteddfod yn gwisgo pinc i fatsio. Poeth iawn hefyd. Mi rydw i ar y funud yn campio yn maes B sydd mond fynu lon i'r eisteddfod. Mi fuaswn yn llawer hapusach os y buasai yn chydig bach agosach. Ond na ni de. Welai chi bois. tan tro nesa .
PS. nath glanaethwy ennill efo cyflwyniad ar lafar ac ar gan, cwl te. Da iawn chi, pob camoliaeth.
Caleb Cymru Llanboidy
Fi'n lico chware peldroed ar y maes chwaraeon a fi yn lico tîm peldroed Abertawe.
Gwd quiche!!!!!!
Owen Jenner o Efailwen
Yn y steddfod dwi'n hoffi casglu freebees a dwy'n hoffi bod y GWEILCH yma!! Ond trueni am y llawr!!!!
Derek Lewis o Crymych
Fi'n hoffi mynd rownd a casglu freebees yn y maes, a dwy'n licio'r safle chwaraeon
Ffion
Rwy'n hoffi'r Eisteddfod mae'r lle yn fawr ac mae llawer o tentiau yma. Rwy'n hoffi'r tent pink hefyd.