Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Garry Owen a Mari o'r Efailwen Taith Post Cynta
Mae Garry Owen a gweddill tîm y Post Cyntaf, yn cydweithio gyda thimau gwahanol bapurau bro yn ystod wythnos o ddarlledu led led Cymru, gan gynnwys yng nghaffi Beca ger Crymych gyda thîm Clebran.
  • Lluniau o griw Clebran yn darlledu'n fyw ar y Post Cyntaf, Â鶹Éç Radio Cymru

    Cyn cychwyn ar y daith, meddai Garry:

    "Mae cyffro mawr yn ein tŷ ni ar y funed. Mae'r Nadolig yn agosáu a gair yr wythnos yw "pacio"! Mae'r anrhegion Nadolig i'w lapio wrth gwrs, ond mae hefyd yn amser dodi pethe yn barod i'w pacio ar gyfer taith Nadolig y Post Cyntaf sy'n dechre' ar ddydd Llun y 11eg.

    Mae cymaint i'w wneud a'r amser yn brin, felly er mwyn bod yn drefnus gwell i fi lunio rhestr o beth sy' angen arna i cyn dechre ar y siwrne o Benybont i Grymych, wedyn lan i Langadfan a Llanrug cyn gorffen yn yr Wyddgrug.

    1. Map. Does dim gyment â hynny o bobol o gwmpas i'w holi ben bore ar y stryd os ydw i ar goll yn llwyr. Y peth calla felly yw trefnu'r siwrne mlaen llaw ... a chadw map yn gyfleus ... rhag ofn! Nawr te' beth yw'r ffordd gyflyma i fynd o Tabernacl Penybont ar Ogwr ddydd Llun, i Gaffi Becca ger Crymych dydd Mawrth ac o fanna lan i ganolfan gymunedol Llangadfan ddydd Mercher cyn teithio i'r Stiwt yn Llanrug ddydd Iau a dod â'r daith i ben yng nghapel Bethesda`r Wyddgrug ddydd Gwener.

    2. Het . Dyw Rhagfyr ddim yn un o'r misoedd mwya' caredig o ran y tywydd a phan bod 'da chi steil gwallt tebyg i fi ... mae het yn hanfodol! Fe dd'wedod hen ewyrth wrtha i un tro, eich bod yn colli mwy o wres o'ch pen nag unrhyw ran arall o' corff ... felly het amdani! Ond pa het? Y llynedd fe gafodd tîm y daith hwyl i'w ryfeddu am yr het fach wlanog y bues i yn ei gwisgo . Efallai mai doeth fydde buddsoddi mewn het fach newydd eleni felly!

    3. Papur a phensil. Does dim cyfrifiadur ar daith, ac mae'n syndod faint o negeseuon pwysig, rhifau ffôn a chyfeiriadau sydd angen eu nodi .

    4.Crib (jôc!!!)

    5. Peiriant recordio a digon o dapiau: dyma y peth mwya hanfodol er mwyn cadw sgyrsiau byrlymus, eitemau difyr a storïau di-ben-draw y daith ar gof a chadw.

    6. Digon o siocled a gwin i'r cynhyrchydd druan sy'n dod mas ar daith gyda fi, mae'r geiriau "amynedd Job" yn dod i feddwl!

    7. Copïau o bapurau bro Yr Hogwr, Clebran, Plu'r Gweunydd, Eco'r Wyddfa a Papur Fama. Dyma'r papurau sydd yn rhan o daith 2006. Nhw fydd y golygyddion a nhw fydd yn dewis a chyflwyno y storïau.

    'Rwy'n meddwl mai dyna'r cwbwl am nawr. Yr unig beth sy ar ôl i'w wneud nawr yw y gwahoddiadau. Mae hynny yn ddigon hawdd ... 'Annwyl ddarllenwyr a gwrandawyr y Post Cyntaf. Dewch i fwynhau ein taith Nadolig eleni, gyda help papurau bro Cymru . Os byddwn ni yn galw heibio i'ch ardal chi, dewch draw i'n gweld ni. Os na allwch chi neud hynny wel croeso mawr i chi ymuno â ni bob bore ar Radio Cymru ... yn eich bro unrhyw bryd. Well mynd nôl at y pacio!'

    Hwyl Garry"

    Manylion yr wythnos

    Bydd timau pump o bapurau bro Cymru yn dod â phersbectif ffres i'r rhaglen o lygad y ffynnon drwy ddewis straeon ar gyfer y rhaglen, dod o hyd i gyfrannwyr lleol a chadw trefn ar y cyflwynwyr!

    Mae hanes papurau bro Cymru yn stori o lwyddiant anhygoel yng ngwahanol ardaloedd Cymru, a phob un gyda'i steil a'i hunaniaeth ei hun.

    Mae golygyddion y papurau bro yn hen lawiau ar chwilio am stori, sgrifennu, casglu a golygu a hynny yn erbyn dedleins tynn bob mis. A dyma'r dewis perffaith felly wrth i Post Cyntaf chwilio am olygyddion gwadd i'r rhaglen.

    Dyma'r papurau bro sy'n cymryd rhan a lleoliadau'r darlledu:

  • Dydd Llun, Rhagfyr 11: Pen-y-bont ar Ogwr gyda thîm Yr Hogwr yn golygu.
  • Lluniau yma

  • Dydd Mawrth, Rhagfyr 12: Caffi Becca ger Crymyrch, gyda thîm Clebran wrth y llyw.
  • Lluniau yma

  • Dydd Mercher, Rhagfyr 13: tro tîm Plu'r Gweunydd fydd hi gyda'r rhaglen yn cael ei darlledu o Fws y Â鶹Éç yn Nghanolfan Gymunedol Dyffryn Banw, Llangadfan.
  • Dydd Iau, Rhagfyr 14: tîm Eco'r Wyddfa sy'n golygu a darlledir y rhaglen o'r Stiwt yn Llanrug.
  • Dydd Gwener, Rhagfyr 15: Capel Bethesda, yr Wyddgrug fydd y gyrchfan a thîm Papur Fama fydd yn golygu.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý