Actor a chwaraeodd y canibal Hannibal Lecter yn y ffilm Silence of the Lambs.
Gellid dadlau mai Anthony Hopkins ydy'r seren fwyaf o Gymru ers Richard Burton, er mai yn reit hwyr yn ei yrfa y daeth i enwogrwydd mawr.Fe'i ganed yn Mhort Talbot yn fab i Muriel a Richard Hopkins, a oedd yn bobydd, ac ymweliad Richard Burton â'i dref enedigol a gyneuodd ddiddordeb Hopkins mewn actio.
Enillodd ysgoloriaeth i RADA yn 1961 a chwaraeodd y brif ran mewn nifer o gynyrchiadau theatraidd yn ystod y 60au. Ond, cyn hynny, yn 1956 y cafodd ei gyfle cyntaf mewn cynhyrchiad Â鶹Éç o 'The Corn is Green' er nad oedd ganddo ef ei hun yr un gair i'w ddweud.Cynhyrchiad arall gan y Â鶹Éç 'War and Peace' a'i denodd i'r Unol Daleithiau ac yno y canfu'r llwyddiant a'i gwnaeth yn seren fawr. Daeth yn wyneb cyfarwydd iawn mewn ffilmiau mawr gan ennill canmoliaeth mawr am ei berfformiad fel Richard y 1af yn 'The Lion in Winter' ac yn yn 'The Elephant Man'.
Ond ei ran mwyaf enwog hyd yma yn bendant ydy un Hannibal Lecter, y llofrudd cyfres o ganibal yn 'The Silence of the Lambs'. Derbyniodd Oscar am ei bortread.
Ond fe gafodd ei ganmol hefyd am ffilmiau megis 'The Remains of the Day, 'Nixon' a 'Shadowlands' ac fel cyfarwyddwr 'August'.
Cafodd ei urddo'n farchog yn 1993 ond yn 2000 penderfynodd gymryd dinasyddiaeth Americanaidd ac fe gafodd ei feirniadu'n hallt.
Ond chafodd hyn fawr o ddylanwad ar ei yrfa ac mae o bellach wedi cwblhau dwy ffilm arall am Hannibal Lecter sef 'Hannibal' a 'Red Dragon' ac mae'r ddwy wedi bod yn llwyddiant ariannol mawr.
Yn arolwg y Sunday Times yn 2002 amcangyfrifwyd i Hopkins ennill £21.5 miliwn mewn un blwyddyn am ei waith ffilm.
Ar 1 Mawrth 2003 priododd Hopkins am y trydydd tro hefo gwerthwr hen greiriau Stella Arroyave mewn seremoni breifat yng Nghaliffornia. Ysgarodd Hopkins ei ail wraig, Jennifer Lyntron yn 2002 ar ôl 29 mlynedd o briodas. Fe gafodd un ferch o'i briodas gyntaf efo Petronella Barker.
Ei funud fawr: ennill Oscar am ei berfformiad o Hannibal Lecter.
Yn answyddogol : Cyn ei lwyddiant yn ennill Oscar, ymddangosodd Hopkins mewn sawl ffilm digon aflwyddiannus yn fasnachol sef 'Desperate Hours', 'The Dawning' a ffilm a ganmolwyd 'The Bounty' efo Mel Gibson, Daniel Day-Lewis a Liam Neeson.
Dathlodd ei ben-blwydd yn 70 ym Mharc Margam ar Nos Galan 2007.