Nhw oedd cyfranwyr y rhaglen O Flaen Dy Lygaid: Y Byd yn Fflam, a ddarlledwyd ar S4C ar Fai 10. Roedd y rhaglen yn bortread teimladwy o glytwaith profiadau amrywiol Gymry a ymladdodd yn yr Ail Ryfel Byd. Llanciau ifanc oedden nhw pan dorrodd y rhyfel allan.
"Rhyw amser diniwed iawn oedden ni yn gael yn ein plentyndod," meddai Ifan Williams o Lanystumdwy, "mynd am dro ar hyd y caeau, cael nythod adar a ballu, hel ffrwytha'... Oedd busnas y rhyfel y tu allan y pentra' ddim yn dod ar draws ein meddyliau ni."
Yr argraff a gaed oedd nad oedd gan y llanciau hyn syniad o realaeth ciaidd bywyd ar flaen y gad.
"On i mor ifanc," meddai Wynfield Jones o Ystradgynlais. "Oni'n meddwl, 'jiw - 'na fechgyn brave'. Youngsters bach oe'n ni gyd a oni'n meddwl bod hi'n wonderful bo nhw'n mynd allan yna a dryll ganddyn nhw a saethu popeth a welen nhw."
Roedd Cyril Jones o Gricieth hefyd yn meddwl ei fod yn dipyn o foi ar ddechrau'r rhyfel, pan aeth i Wrecsam i gynnig ei hun i'r fyddin.
"Mi ddywedodd rhyw Sarjant Major, 'just the man we want'. Wel, oni'n teimlo fy hun yn lledu..."
Ond buan y gwawriodd gwirionedd rhyfel arno wedi brwydr Dunkirk.
"O'dd hi'n rhemp yno. .. oedd y gelyn yn gryfach na ni o lawer... Oedd y llanast mwyaf ofnadwy yno... oedd y French Cavalry a'r fyddin wedi eu lladd.. Roedden ni'n dreifio dros y cyrff."
Profodd nifer galedi erchyll carchardai rhyfel a phoen colli cyfoedion a chyfeillion mewn sefyllfaoedd gwaedlyd-greulon. Roedd yn rhaglen ddirdynnol, deimladwy wrth i'r cyfranwyr agor llifddorau'r cof ar brofiadau erchyll y bu'n rhaid iddyn nhw fyw trwyddynt a byw gyda nhw gydol eu hoes.
Yn ogystal â'r cyfranwyr uchod,clywodd y rhaglen hanes Donald Bradfield, Abertridwr, Bruce Coombes, Llangyndeyrn, Cydweli, D.T.Davies o'r Dryslwyn, Emrys Wyn Evans o Gaersws, Ronald Hayward, Maenygroes, Cei Newydd, Dan Jones, Gorslas, ac Aran Morris, Borth, oll yn sôn am eu profiadau personol hwy. Darlledwyd O Flaen Dy Lygaid: Y Byd yn Fflam, ar nos Fawrth Mai 10 ar S4C.
Cliciwch yma i ddarllen atgofion rhyfel trigolion Canolbarth Cymru, a gallwch chi gyfrannu eich atgofion chi at y wefan hon hefyd.