Agor Eglwys: diwrnod pobl y Bont
Ddydd Sadwrn 13 Hydref, 2007 cynhaliwyd gwasanaeth i ddathlu cwblhau ailgodi Eglwys Llandeilo Tal-y-bont yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
Daeth tyrfa fawr o bobl Pontarddulais i weld Eglwys Teilo Sant yn ei chartref newydd, flynyddoedd wedi cychwyn y gwaith o symud yr Eglwys o'u plwy' i'r Amgueddfa Werin. Isod, gwelir lluniau o'r diwrnod.
Roedd gan nifer o'r trigolion atgofion a chysylltiadau â'r Eglwys yn ei lleoliad gwreiddiol, cliciwch yma i glywed eu straeon wrth iddyn nhw hel atgofion am y dyddiau a fu.
|