Beth sydd i'w ddisgwyl yn eich tymor cyntaf fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd?
Fel myfyriwr newydd gwblhau fy ail flwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, rwy'n ymwybodol iawn o'r ofn, y nerfusrwydd a'r cynnwrf o orfod symud o gefn gwlad i ddinas fawr a dechrau pennod newydd mewn bywyd. Y peth cyntaf sy'n eich taro am ardal y Waun Ddyfal (Cathays) sef ardal myfyrwyr Caerdydd, yw'r amrywiaeth o ddiwylliannau gwahanol sydd yma.
Wrth gerdded i ddarlith, mae'n ddigon hawdd taro ar nifer o grwpiau o fyfyrwyr sy'n siarad ieithoedd gwahanol; tipyn o newid i'r arfer o glywed y Gymraeg yn unig ar iard yr ysgol. Wrth addasu i'r diwylliant dinesig, rhaid bod yn agored i nifer o newidiadau a datblygiadau cymdeithasol. Ond, na hidiwch, cewch yn yr ardal hefyd ddigonedd o fyfyrwyr sydd yn yr un sefyllfa â chi. Mae'r Gymdeithas Gymraeg o fewn y brifysgol yn croesawu myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a thrwy gyfrwng croliau tafarn, tripiau i'r ddawns a'r eisteddfod ryng-golegol yn ogystal â thrip rygbi blynyddol i gefnogi Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad, mae rhywbeth at ddant pawb.
Mae symud i'r ardal fel symud i dref fechan sy'n rhan o ddinas fwy. Yn y Waun Ddyfal, mae nifer o siopau cornel, ambell i siop fechan sy'n rhan o gadwyn yr archfarchnadoedd yn ogystal â bwytai a thafarndai. Wrth gerdded deg munud un ffordd, rydych yng nghanol y ddinas ac wrth gerdded i'r cyfeiriad arall, rydych ar gampws y brifysgol - mae'r lleoliad yn berffaith.
Y neuadd breswyl fwyaf poblogaidd ymysg y myfyrwyr Cymraeg ydi Llys Senghennydd ac yma mae'r rhan fwyaf o'r Cymry yn aros yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Ceir yma ddigonedd o hwyl ac rwy'n sicr y bydd eich blwyddyn gyntaf yn Senghennydd yn atgof melys am flynyddoedd i ddod. Ar ôl hynny, mae'n rhaid symud i dai ac nid oes prinder o gwbl yma - mae mwy o dai na sydd o fyfyrwyr ac felly, ni chewch unrhyw drafferth!
I'r rheini ohonoch chi sydd awydd rhywbeth gwahanol, mae aelwyd yr Urdd newydd wedi cael ei sefydlu yn ardal y Waun Ddyfal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu'r aelwyd yn llwyddiannus iawn yn Eisteddfod yr Urdd a chyda perfformiadau yng Nghanolfan y Mileniwm a chystadlu yn yr Ŵyl Gerdd Dant ar y gweill yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol yn ystod tymor yr hydref, mae'r flwyddyn nesaf yn argoeli'n dda iawn ac y bydd yr aelwyd yn mynd o nerth i nerth. Bydd digwyddiad cymdeithasol yn cael ei drefnu yn ystod wythnos y glas er mwyn denu aelodau newydd a rhoi'r cyfle i bawb ymaelodi a dod i adnabod ei gilydd.
Felly, nac ofnwch yn ormodol - mae digon o bethau i'ch diddori a'ch cadw'n brysur yng Nghaerdydd ac yn ardal y Waun Ddyfal. Bydd eich cyfnod fel myfyriwr yma yn un fydd yn aros yn y cof am beth amser ac yn sicr, erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, bydd eich ofnau'n angof a chithau'n barod i wneud y gorau o'ch bywyd fel myfyriwr ar ôl gadael yr hen Wynedd am y Waun Ddyfal!
gan Huw Foulkes
Mwy am fywyd myfyrwyr Caerdydd
|