Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerdydd
Catrin Edwards a ffrind Dyddiadur Stiwdant
Wythnos ym mywyd stiwdant y flwyddyn olaf, gan Catrin Edwards.
Dydd Llun
Dyma'r chweched bore dydd Llun y tymor hwn. Y chweched! Dwi'n gwybod fy mod i'n swnio fel hen ddynes yn deud hyn ond dwi'n siŵr mai newydd orffen fy nghinio Nadolig ac agor fy anrhegion ydw i. Mi fyddaf yn graddio ymhen dim, ac yn gorfod ffarwelio â bywyd myfyrwraig. Dim mwy Funfactory yn yr undeb nos Lun, dim mwy o ddawnsio'n wyllt yn Popscene yng Nghlwb Ifor Bach ac yn sicr dim mwy o yfed yn Moloko nos Iau (bar fodca mwyaf yng Nghymru).

Mae dyddiad cyflwyno fy ffolio ysgrifennu creadigol wedi ei brintio'n fras mewn beiro coch ar fy nghalendr yn ogystal â phrofion di-ri. Mae'r holl dyddiadau'n gwenu'n ddel arnaf ac heddiw mae disgwyl imi ddarllen fy ngwaith creadigol i'r dosbarth. Diolch byth fy mod i'n mynd i Funfactory heno yn yr undeb i ddathlu pen-blwydd ffrind!

Dydd Mawrth
Adeilad y DyniaethauDiwrnod prysur heddiw, gwaith cwrs i'w gyflwyno yn y Ffrangeg a Chymraeg a finnau'n rhedeg fel ffŵl o gwmpas adeilad y dyniaethau yn edrych am beiriant argraffu rhydd. Heglu wedyn o un ddarlith i'r llall, Cymdeithaseg yr Wyddeleg â Chymraeg y Gweithle, cyn mentro i ddarlith ar ddramâu Ffrangeg.

Wedi hen flino ar athroniaethau Jean-Paul Sartre ac Albert Camus, rwyf yn cyfarfod ffrind yn Y Taf am goffi. Mae angen y caffîn arnaf ar gyfer y ddwy awr nesaf o ramadeg Ffrangeg.

Rwyf wedi hen flino ar ansoddeiriau, berfau a chyfosodiadau Ffrangeg, ond mae disgwyl imi fynychu y sinema Ffrangeg heno. Clywaf eiriau y darlithwyr ynglŷn â'r arholiadau pen tymor yn atseinio yn fy nghlustiau felly rwyf yn mynd i wylio La Haine gyda fy ffrindiau Ffrangeg. Wedi'r ffilm rwyf yn darllen erthygl ar gyfer fy narlith Ffrangeg bora fory - vive la France! Ac yn syth i'r gwely...

Dydd Mercher
Awr o newyddion Ffrangeg am 11 bora yma i baratoi ar gyfer yr arholiad clywedol. Diwrnod llawn darlithoedd eto a finnau wedi syrffedu'n lân ar fy ngwaith. Rwyf yn gwneud trip sydyn ond llawer rhy costus i Tesco Metro ar Albany Rd. ar y ffordd adref. Tesco ar Albany RoadMynd yno i brynu llefrith a rywsut yn llwyddo gwario pymtheng punt.

Cyrraedd adref wedyn gan lwyddo osgoi gwylio Neighbours. Yn teimlo'n weddol hapus â'r aberth hwnnw, rwyf yn dechrau astudio ar gyfer fy nhraethawd. Rwyf yn bwriadu mynd i gwis Cymraeg yn y Goat Major am saith heno ac efallai Popscene yn Clwb Ifor Bach yn dibynnu ar bwysau gwaith.

Dydd Iau
Diwrnod adref heddiw a chyfle imi wneud fy ngwaith. Diwrnod diflas ar y naw, ond rwyf yn llwyddo gwneud ymchwil ar draethawd Ffrangeg a digon o ddarllen ar gyfer fy nghyflwyniad Ffrangeg ymhen wythnos. Efallai yr af i chwarae tenis yng nghyrtiau Mackintosh.

Dydd Gwener
Rwyf yn deffro'n gynnar unwaith eto er mwyn astudio. Diflas mi wn, ond dyma'r arferol yn y flwyddyn olaf. Cyn sgrechian a cholli fy mhwyll rwyf yn cerdded i ganol y dref i gyfarfod ffrind am ginio. Ar ôl pendroni ynglŷn â lle i fwyta rydym yn prynu brechdanau ac yn trafod y byd a'i bethau ym Mharc Cathays, tu ôl i hen adeiladau y prifysgol. Heddwch! A chyfle grêt i ymlacio, anghofio am y pentwr o waith sydd ar fy nesg adref a gwerthfawrogi prydferthwch Caerdydd. Tydi hi ddim yn bwrw - gwyrth!

Amhosib yw anwybyddu fy ngwaith mwyach ac rwyf yn dychwelyd adref i'r pentwr cynyddol o bapurau. Efallai yr af i wylio ffilm yn Chapter heno....

Dydd Sadwrn
Dydd Sadwrn ac mae'r dref yn fwrlwm o blant a phobl. Mae'r dref yn lle enbyd ar ddiwrnod gêm ac yn fwy o drafferth na'i gwerth. Siopau Albany Road
Gwell yw aros adref i osgoi yr heidiau a chymryd mantais o'r siopau bach ar Albany Rd. yn hytrach. Rwyf yn 'chwarae' tenis y prynhawn yma felly rwyf yn diogi yn y bora ac yn rhoi'r byd yn ei le gyda fy ffrindiau - cyn mentro gwneud ychydig o waith.

Rwyf yn ceisio penderfynu os y dylwn i fynd allan heno, ac os ydw i, i lle? Clwb Ifor, Moloko neu Toucan...?

Dydd Sul
Deffro ychydig yn hwyrach na'r arfer, wel, mae hi'n ddydd Sul wedi'r cyfan! Rwyf yn gwylio unrhyw raglen deledu yn fy ngwely er mwyn osgoi fy ngwaith coleg, ond yn sylweddoli ar ôl syllu mewn diflastod ar y bocs fod fy ngwaith yn cynnig mwy o adloniant na Hollyoaks. Ar ôl trafod helyntion y noson gynt rwyf yn llwyddo agor fy llyfrau a ffolderi er mwyn gwneud ychydig o oriau o waith. Wedi gwneud digon i dawelu fy nghydwybod rwyf yn ffonio ffrind gan benderfynu mynd i'r dref i siopa.

Mae'r Suliau yr un mor brysur â dydd Sadwrn ond rydym yn mentro i fewn beth bynnag. Yr Arcedau, Stryd y Frenhines a'r Santes Fair, gormod o ddewis siopau ac rwyf yn camddefnyddio'r overdraft (unwaith eto!) Rwyf yn cysuro fy hun a'r ffaith y gefais i ostyngiad o 10% yn TopShop efo'r cerdyn NUS ffyddlon. Dyma'r broblem â Chaerdydd - gormod o ddewis siopau ar fy nrws ffrynt.

Adref wedyn i astudio a pharatoi ar gyfer wythnos arall o osgoi gwaith.

Gan: Catrin Edwards


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Cynulliad Cenedlawthol Cymru
Tywydd
Lluniau
Elusennau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý