Lluniau o'r digwyddiad
Symudwyd Eglwys Sant Teilo i'r Amgueddfa fesul carreg, o'i chartref ar orlifdir Afon Llwchwr ger Pontarddulais ac fe'i hagorir yn swyddogol yn Sain Ffagan ar 14 Hydref 2007 - un o brif ddigwyddiadau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru.
Felly ag ond wyth mis yn weddill, roedd y digwyddiad yn roi cyfle i ymwelwyr i werthfawrogi'r datblygiadau diweddaraf i'r adeilad; y saernïaeth medrus i greu lloft a sgriniau wedi'u cerfio'n gain; gwaith paent gofalus gan ddefnyddio dulliau traddodiadol; a gosod ffenestri gwydr a wnaethpwyd â llaw.
Clywodd ymwelwyr y diweddaraf am atgynyrchiadau o gyfres prin iawn o furluniau lliwgar a ddatguddiwyd ar y safle yn Llandeilo Tal-y-bont, bydd yn addurno tu mewn yr adeilad. Dangoswyd un o'r murluniau gwreiddiol yn Oriel 1, oriel newydd sbon fydd yn agor yn Sain Ffagan yn hwyrach yn y Gwanwyn.
Yn ogystal, dadorchuddiwyd cloch newydd a greuwyd yn arbennig ar gyfer Eglwys Sant Teilo yn ystod gwasanaeth foreol a gynhaliwyd yn yr Eglwys o dan arweiniad Y Parch John Walters, Pontarddulais.
"Am y tro cyntaf mae ymwelwyr wedi gweld o lygad y ffynnon y broses o ail-godi adeilad hanesyddol," dywedodd Gerallt Nash, Uwch Guradur, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
"Mae nifer yn teithio o Bontarddulais, cartref wreiddiol yr Eglwys ar Ddiwrnod Teilo Sant er mwyn monitro datblygiad yr Eglwys. Dyma un o'n prosiectau mwyaf uchelgeisiol ac ar ol 15 mlynedd o ymroddiad gan y tîm sydd hefyd wedi rhannu'r broses gyda'r cyhoedd, rydyn ni'n edrych ymlaen at agoriad swyddogol Eglwys Sant Teilo yn yr Hydref."
Cefnogir Diwrnod Teilo Sant yn Sain Ffagan gan Ymddiriedolaeth Elusennol G.C. Gibson, Ymddiriedolaeth Headley, Sefydliad Jane Hodge, Mr Desmond Perkins a Mrs Audrey Perkins.