Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Hogwr
Canu Calennig Canu Calennig: eich penillion chi
Chwefror 2008
A fu rhai ohonoch chi erioed yn canu ar fore Dydd Calan?

Roedd yn arferiad mewn nifer o ardaloedd i blant fynd o amgylch yn gynnar ar fore Calan, i ganu ac i dderbyn arian neu anrheg. Roedd yn bwysig eich bod yn gwneud hyn cyn hanner dydd ac roeddech yn fwy derbyniol os yn fachgen gyda gwallt du.

Beth oedd yr arferiad neu'r gân yn eich ardal chwi? Dyma brofiad David Griffiths,(o ardal Llanelli.) Doedd ei dad ddim yn meddwl llawer o'r pennill cyfarwydd yma fyddai yn cael ei ganu gan fod pawb yn ei ganu:

Blwyddyn newydd dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tÅ·
Dyma yw nymuniad i
Blwyddyn newydd dda i chi.

Felly dyma'r pennill ddysgodd ei dad iddo:

Mae'r flwyddyn newydd eto wedi dod,
A ninnau sydd yn canu wrth eich drws,
Gobeithio fyddwch leni
Yn iach bob un o'ch teulu
Am rhoi calennig i mi flwyddyn hon
A wnewch chi roi calennig i mi'n llon
I mi'n llon.

Mae Dave yn dal i allu ei ganu yn swynol iawn ond mae eisiau cerddor llawer gwell na fi i gofnodi'r dôn.

Dyma'r pennill fyddai Eluned yn canu wrth fynd o amgylch ardal Llanfarian ger Aberystwyth:

Calennig yn gyfan, mae heddiw'n Ddydd Calan
Unwaith, dwywaith, tair.
Mi godais yn fore, mi redais yn gyflym
I dÅ· Mr Jones i mofyn Calennig.
Os gwelwch yn dda gai swllt neu chwe cheiniog,
Blwyddyn Newydd Dda am ddime neu geiniog.

Byddai yn ddiddorol clywed am y penillion a'r arferion a ddefnyddiwyd gennych pan yn blant. Edrychwn ymlaen i gyhoeddi eich cyfraniadau (ym mhapur bro Yr Hogwr).

Tom Price

  • Mwy am arferion y Calan

  • Y Fari Lwyd


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý