Bydd cynhyrchiad o ddrama olaf Wil Sam yn cychwyn ar ei thaith o amgylch Cymru Ebrill 15, 2009.
Drama anorffenedig ydi Halibalw wedi ei chwblhau gan yr actores a'r cynhyrchydd Valmai Jones mewn ymgynghoriad â merch yr awdur, Elin.
Dywedodd linda Brown o Gwmni Bara Caws fod Wil Sam yn dal i weithio ar y ddrama pan fu farw y llynedd.
"Yr oedd wedi rhoi'r ddrama inni ond mi ofynnodd amdani'n ôl gan nad oedd o'n gwbl hapus medda fo efo'r diweddglo ac eisiau ei wella," meddai.
"Yn anffodus bu farw cyn gallu gorffen ond mae Elin ei ferch a Valmai wedi golygu'r ddrama inni ar gyfer ei pherfformio."
Y cyfarwyddwr fydd Betsan Llwyd gyda Bryn Fôn, Delyth Eirwyn, Valmai Jones a Carwyn Jones yn cymryd rhan yn yr hyn sy'n cael ei disgrifio fel "y perl olaf o waelod y ciarpad bag".
Mae'r ddrama, ±á²¹±ô¾±²ú²¹±ôŵ, yn dilyn ymdrechion cwpwl ifanc yn Eifionydd "i ffeindio gwir hapusrwydd tu hwnt i hualau a chadwyni cymdeithas" a'i theitl gwreiddiol oedd Cadwyni a ±á²¹±ô¾±²ú²¹±ôŵ.
Dim plismon!
Wrth siarad am y ddrama ar y rhaglen radio
"Mae na dramp. [Ond] does na ddim plismion yn hon - ond yn rhyfedd iawn, fel roeddan ni'n darllen am y tro cyntaf . . . roedden ni jyst yn dwad at y diwedd a dyma yma ddau blisman jyst yn cerdded drwy'r stafell ymarfer. Roedden nhw yma am fod rhywun wedi torri mewn. A dyma Elin yn dweud, 'W, mae dad yn sbio lawr arnan ni a dweud dylia chi fod wedi cael plismyn yn fy nrama fi' ac roedd o'n edrych fel rhyw fath o negas inni - ond dyda ni ddim wedi rhoi un chwaith."
Y daith
- 15 Ebrill Neuadd Ogwen, Bethesda 19.30 Linda Brown: 01248 601526/Siop John, Bethesda
- 16 Ebrill Ysgol Uwchradd Botwnnog, Botwnnog 19.30 Carys Evans: 01758 730748
- 17 Ebrill Theatr John Ambrose, Rhuthun 19.30 Aled: 01824 708716/Eirwyn: 01824 702391
- 18 Ebrill Neuadd J.P., Bangor 19.30 Bara Caws: 01286 676335
- 21 Ebrill Clwb Simdde Wen, Wylfa 19.30 Ian: 07919205217/Linda Brown: 01286 676335
- 22 Ebrill Neuadd Talybont, Aberystwyth 19.30 Falyri Jenkins: 01970 823560
- 23 Ebrill Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron 19.30 Swyddfa Docynnau: 01570 470697
- 24 Ebrill Ysgol Maes yr Yrfa, Cefneithin 19.30 Menter Cwm Gwendraeth: 01269 871600
- 25 Ebrill Neuadd Bronwydd, Caerfyrddin 19.30 Pwyllgor y Neuadd: 01267 234868/01267 231324
- 28 Ebrill Theatr Twm o'r Nant, Dinbych 19.30 Gaynor: 01745 812349/Caffi Glass Onion 01745 813125
- 29 Ebrill Galeri, Caernarfon 19.30 Swyddfa Docynnau: 01286 685222
- 30 Ebrill Galeri, Caernarfon 19.30 Swyddfa Docynnau: 01286 685222
- 01 Mai Neuadd Betws-y-Coed, Betws-y-Coed 19.30 Tamzin: 07747013765/ Siop Bys a Bawd, Llanrwst
- 02 Mai Neuadd Oliver Jones, Dolywern 19.30 Menter Maelor: 01978 363791
- 05 Mai Canolfan Bro Aled, Llansannan 19.30 Eilir Jones: 01745 870513
- 06 Mai Neuadd Buddug, Y Bala 19.30 Siop Awen Meirion: 01678 520658/ 01578 704088
- 07 Mai Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog 19.30 Gwen Edwards: 01766 830435
- 08 Mai Neuadd Dwyfor, Pwllheli 19.30 Swyddfa Docynnau: 01758 704088
- 09 Mai Neuadd Dwyfor, Pwllheli 19.30 Swyddfa Docynnau: 01758 704088