Y gobaith yw y gall dramodydd ifanc toreithiog o Lundain roi hwb i egin ysgrifenwyr sgrifennu ar gyfer y theatr Gymraeg.
Dyna'r bwriad y tu ol i wahoddiad Theatr Genedlaethol Cymru i David Eldridge dreulio amser yng Nghymru.
Mae Eldridge yn awdur nifer o ddramâu ar gyfer ffilm, teledu, radio a'r llwyfan a bydd yn trafod y gamp o ysgrifennu dramâu llwyddiannus yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd nos Fercher, Ebrill 8, 2009, am 7.30 o'r gloch lle bydd hefyd yn ateb cwestiynau'r gynulleidfa.
"Bydd hyn yn gyfle unigryw i rai sydd â'u bryd ar weld eu gwaith ar lwyfan glywed meistr ar ei grefft," meddai Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
"Bydd hyn hefyd yn cadarnhau polisi Theatr Genedlaethol Cymru o gefnogi dramodwyr ifanc a hyrwyddo gwaith newydd cyffrous," ychwanegodd.
Mae gwaith llwyfan Eldridge yn cynnwys Under the Blue Sky, Thanks Mum ac A Week With Tony tra bo ei lwyddiannau ar y teledu'n cynnwys Killers ac Our Hidden Lives.
"Mae hefyd yn gweithio'n ddiflino yn hyrwyddo ysgrifenwyr newydd, yn enwedig felly ddramodwyr newydd a dibrofiad," ychwanegodd Cefin Roberts.
Cofio Wil Sam
Noddir ei ymweliad â Chymru gan y cwmni teledu annibynnol Rondoer cof am y dramodydd o Eifionydd, WS Jones - Wil Sam - a fu farw fis Tachwedd 2007.
"Buasai Wil Sam ei hun ar ben ei ddigon o wybod bod dramodwyr ifanc Cymraeg yn cael cyfle fel hyn," meddai Cefin Roberts.
"Mae'n arbennig o briodol fod ymweliad David Eldridge er cof am un dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn cefnogi pob agwedd o'r theatr Gymraeg."
Yn ychwanegol at ei waith fel dramodydd mae David Eldridge yn Gymrawd mewn Drama ym Mhrifysgol Caerwysg ac yng Ngorffennaf 2007 fe'i hanrhydeddwyd gan y coleg gyda doethuriaeth am ei gyfraniad i fyd y theatr.
Gellir cael tocynnau i ddarlith David Eldridge yng Nghaerdydd drwy e-bostio thgc@theatr.com.