Cyfieithiad o sioe gerdd Saesneg fydd cynhyrchiad nesaf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
Deffro'r Gwanwyn - cyfieithiad o Spring Awakening - yw sioe gerdd gyntaf y cwmni a bydd yn cychwyn ar daith o amgylch Cymru fis Mawrth 2011.
Fe'i troswyd i'r Gymraeg gan Dafydd James.
Mae'n seiliedig ar ddrama wreiddiol gan Frank Wedekind.
"Er i Frank Wedekind ysgrifennu'r ddrama yn ôl ym 1891, mae ei sylwadau cymdeithasol yr un mor berthnasol heddiw," meddai llefarydd ar ran Theatr Genedlaethol Cymru am y stori am bobl ifanc yn eu harddegau cynnar sy'n ymateb i'w chwilfrydedd ac yn ceisio dygymod â phrofiadau herfeiddiol fel hunanladdiad, rhyw a pherthynas hoyw.
Mae'n cael ei ddisgrifio fel "cynhyrchiad grymus a gafaelgar" a fydd yn ysgogi trafodaeth.
"Gwaharddwyd drama wreddiol Frank Widekind am ychydig oherwydd ei chynnwys beiddgar," meddai swyddog Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Williams.
"Wedi'i selio ar y ddrama derbyniodd y ddrama gerdd, a ysgrifennwyd gan Steven Slater a'r gerddoriaeth gan Duncan Sheik, lu o wobreuon ers ei llwyfannu gyntaf yn Broadway Efrog Newydd yn 2006 ac fe'i chyfieithwyd i'r Gymraeg gan Dafydd James," meddai.
Elen Bowman sy'n Cyfarwyddo ac mae'r cast o dri ar ddeg yn cynnwys actorion profiadol fel Ffion Dafis a Dyfed Thomas sy'n chwarae rhan yr oedolion llym ac didostur.
Cymerir rhan y bobl ifanc ar eu trugaredd gan Zoë George, Owain Gwynn, Iddon Jones, Daniel Lloyd, Elain Lloyd, Ellen Ceri Lloyd, Elin Llwyd, Berwyn Pierce, Aled Pedrick, Lynwen Haf Roberts a Meilir Rhys Williams. Y Cyfarwyddwr Cerdd yw Dyfan Jones."Cynhyrchiad ar gyfer cynunlleifaoedd ifanc yn bennaf yw hwn ond mae ynddo agweddau sy'n taro tant gyda phobl o bob oed," ychwanegodd Elis Williams.
"Gyda band roc byw yn cyfeilio bydd yn brofiad theatrig bythgofiadwy," meddai.
Y daith
Dyma fanylion y daith:
- Caerfyrddin - Mawrth 09-11, 2011. 7:30. (Rhagwelediad y noson gyntaf) Y Llwyfan, Heol Y Coleg. 0845 226 3510 (Theatrau Sir Gâr yn gwerthu tocynnau)
- Caerdydd Mawrth 15-16. 1:30pm ac 8.00* (*isdeitlo. Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru. 029 2063 6464.
- Pontardawe Mawrth 22-23. 7:30pm Canolfan Hamdden. 01792 863722 (Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn gwerthu tocynnau)
- Aberaeron Mawrth 25-26. 7:30. Canolfan Hamdden Syr Geraint Evans. 01239 621200 (Theatr Mwldan yn gwerthu tocynnau)
- Dolgellau, Mawrth 29 - Ebrill 1. 7:30. Canolfan Hammden Glan Wnion. 01341 421800 (TÅ· Siamas yn gwerthu tocynnau).
- Llanrwst Ebrill 5-6. 7:30. Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy 01492 642357 (Menter Iaith Conwy yn gwerthu tocynnau).
- Wrecsam Ebrill 8-9 7:30 Canolfan Hamdden Plas Madoc, Acrefair 01978 293293 (Prifysgol Glyndŵr yn gwerthu tocynnau).
- Ymys Môn Ebrill 12-15. 7:30. Canolfan Hammden Biwmares. 01248 382828 (PONTIO Bangor yn gwerthu tocynnau).
Pobl ifanc
Mae ofn a chwilfrydedd y bobl ifanc yn y sioe yn eu harwain at brofiadau herfeiddiol sydd a chanlyniadau dirdynnol i rai ac i eraill yn newid cwrs bywyd am byth.
"Mae Deffro'r Gwanwyn yn ymdrin â gormes rhywiol ac anhrefn hormonaidd wedi ei hadrodd mewn ffordd gonest a miniog," meddir.
Ymhlith caneuon y sioe wreiddiol a agorodd ar Broadway yn 2006 y mae: Mama Who Bore Me'; The Bitch of Living'; My Junk; Touch Me; The Word of Your Body; I Believe a The Song of Purple Summer.