Â鶹Éç

Gwenlyn Parry - atgofion cynhyrchydd

Gwenlyn Parry a George Owen

Atgofion George Owen

Cyn agor ei gŵys ei hun ym myd y ddrama Gymraeg simsanodd Gwenlyn Parry rywfaint rhwng dau fath arall o ddrama yn ôl y cynhyrchydd, George Owen.

Dywedodd i Gwenlyn ymddiddori'n gynnar yn y theatr Kitchen Sink a darllen llawer ar weithiau dramodwyr fel John Osborne ac Arnold Wesker yn ogystal â gweithiau Pinter a Ionesco a dramodwyr eraill yr abswrd.

"Dwi'n meddwl," meddai George Owen, "iddo simsanu rhwng y ddau am gyfnod ond yn y diwedd fe agorodd ei gŵys ei hun, cŵys newydd yn hanes y ddrama Gymraeg."

Dywed mai ei gyfaill agos, Huw Lloyd Edwards, oedd yr agosaf ato yn y Gymraeg.

"Yr oedd e'n bell iawn oddi wrth Saunders Lewis a John Gwilym Jones oedd yn ddramodwyr llawer mwy confensiynol," meddai.

Cydweithio'n bwysig

"Y fo oedd y cyntaf i ddod i mewn i uned sgriptiau newydd Â鶹Éç Cymru ac ar ei ôl o daeth Meical Povey, Sion Eirian, Rhydderch Jones am gyfnod, T. James Jones, William Jones - yr oeddan nhw'n dylanwadu llawer iawn ar ei gilydd.

"Yr oedd cydweithio'n bwysig iddo fo ac yr oedd rhai o'i weithiau bron a bod yn gywaith, gyda'r ddrama deledu, Grand Slam, yn enghraifft arbennig o hynny."

Cadarnhaodd George Owen stori hefyd ynglŷn â diweddglo Saer Doliau.

"Bu trafod mawr sut y dylai'r ddrama orffen ac yn y diwedd fe ddwedodd Gaynor Morgan Rees, 'Pam na chanith y teliffon?'

"Flynyddoedd wedyn pan oeddwn i'n ail wneud y ddrama ar gyfer y teledu gofynnais iddo fo a hoffai o gael diweddglo arall i'r ddrama. Ac yntau wedi cael blynyddoedd i feddwl, gwrthod wnaeth o.

"Mi ês i cyn belled â recordio dau ddiweddglo ond roedd o'n bendant mai y teliffon yn canu oedd o eisiau. Er nad oedd o ddim yn gwybod pam 'chwaith."

Ychwanegodd: "Fe gafodd o goblyn o sioc pan oeddan ni'n gwneud TÅ· ar y Tywod ar gyfer y teledu.

"Roedd yna fersiwn llwyfan ac un teledu, cast gwahanol, cynyrchiadau hollol wahanol. Y fi gynhyrchodd yr ymdriniaeth deledu ac mi gês i benrhyddid ganddo fo.

"Mi ddaeth i lawr i Gaerdydd i weld y ffilmio a gweld yr adeg honno beth fedrai'r cyfrwng ei gyfrannu - ac mi ddotiodd at hynny.

"Rhyddid ar raff oedd hi gyda Gwenlyn - mi wnâi o gyfaddawdu efo rhai pethau."

Stwff bara menyn

"Gweithio'n ysbeidiol oedd o ac weithiau mi fyddai'n cael trafferth efo ambell bennod. Y wyrth oedd iddo wneud cymaint ag yntau'n cynhyrchu cymaint o stwff 'bara menyn' i'r teledu.

"Stwff 'bara menyn' da iawn, fel Fo a Fe, Tresarn a Pobol y Cwm.

"Roedd o'n berson efo llawer iawn o syniadau - roedd gynno fo ffrindiau tua Chaernarfon, fel Gwilym Pritchard, oedd yn arbrofi efo cynyrchiadau cyfoes iawn - way-out a dweud y gwir.

"Doedd llawer o'r syniadau yma ddim yn gweld golau dydd - gweld y gwaith gorffenedig oeddan ni."


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.