麻豆社

National Theatre Wales: The Village Social

Cast y ddrama

25 Hydref 2011

Adolygiad Lowri Haf Cooke o The Village Social. National Theatre Wales, Neuadd Bentre Rhydri , Hydref 21 2011

Noson fawr Cae Bach

  • Y Cyfarwyddo: Ben Lewis
  • Y Cyfarwyddo Cerddorol: Dafydd James
  • Sgwennu: Ben Lewis a Dafydd James
  • Cynllun; Cai Dyfan

Wythnosau'n unig ar 么l cwblhau taith lwyddiannus y Theatr Genedlaethol o Llwyth gan Dafydd James, dechreuodd National Theatre Wales ar ei ail dymor gyda sioe gerdd hwyliog a honco bost gan y dramodydd o'r Bont-faen a'i bartner sgwennu, Ben Lewis.

Disgrifiwyd The Village Social yn y The Guardian fel, "The Vicar of Dibley meets The Wicker Man", ac wedi gweld y ddrama, ni allwn anghytuno 芒 hynny gan fod y ddrama'n gwyro rhwng comedi fras a chartrefol a them芒u brawychus a sinistr wrth herio rhagrith rhonc pentre Cymreig cyffredin.

Yn wir, byddai'r un mor addas i'w chymharu 芒 chroesbeilliad o'r sit-com swreal Teulu'r Mans a'r ffilm gwlt iasoer, O'r Ddaear Hen.

Cae Bach yw'r pentre dan sylw, ac yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau annymunol dros yr hydref penderfynwyd cynnal noson gymdeithasol dan ofal y pwyllgor lleol i godi calon y pentrefwyr - sef y gynulleidfa.

Yn arwain y noson y mae'r Llywydd, dyn gweddw o'r enw Lawrence (Darren Lawrence), a diolch i gymorth ei ysgrifenyddes addolgar Lisa-J锚n (Rebecca Harries), addurniadau go glam Yvonne (Carys Eleri), mesurau diogelwch ei macho-man Dave (Oliver Wood) a pharatoadau iechyd a diogelwch y Jean oedrannus (Sue Roderick), mae'n addo'n noson i'w chofio.

Mynd o chwith

Aiff pethau o chwith o'r cychwyn cyntaf pan ddatgelir fod prif westai'r noson - y gweledydd Madame Isis - yn rhedeg yn hwyr, felly rhaid i aelodau'r pwyllgor ddiddanu'r dorf gyda chronoleg o hanesion lleol, sy'n cynnwys llwyth o Silwriaid arwrol, mynach drewllyd o'r enw Papa Begw, y cariadon trasig, Arthur ac Anwen, dawnswraig glocsiau anffodus o'r enw Little Missy - ac ywen hynafol sy'n dynodi beddrod y Duw Celtaidd Cernunnos a phorth rhwng isfyd Annwfn a phentre Cae Bach.

Pan gyrhaedda'r Madame Isis sinistr a sinigaidd, aiff pethau o ddrwg i waeth a datgelir sawl gwirionedd am bentrefwyr parchus Cae Bach sy'n arwain at loddest orffwyll i gyfeiliant y band lleol Flower Folk.

Roedd hi'r un mor bleserus i wylio'r sioe ag i grynhoi'r braslun boncyrs hwnnw ac, yn wir, o eiliadau cynharaf y ddrama, pan ges fy arwain at fy sedd gan yr Yvonne garismataidd, cefais i ac aelodau eraill y gynulleidfa ein swyno'n syth gan y syniad ein bod yn aelodau o'r gymuned ddychmygol hon.

Cynllun trawiadol

Diolch i gynllun trawiadol y set yn neuadd blwyf Rhydri ar gyrion gogledd Caerdydd a ffwdan ffug y paratoadau munud olaf gan gymeriadau'r ddrama - gan gynnwys "cymdeithasu" a hwrjio tocynnau raffl ar holl aelodau'r gynulleidfa - cafodd profiad cyfarwydd ei droi ar ei ben mewn ffordd ddeheuig iawn.

Diolch i oleuo crefftus, ro'n i ar bigau'r drain am y rhan fwyaf o'r ddrama, ac wrth fy modd am nad oedd gen i syniad beth i'w ddisgwyl nesa, gan fwynhau sgript hynod ddifyr y cyfarwyddwr Ben Lewis a ddatblygodd gryn dipyn yn dywyllach wrth iddi fynd yn ei blaen ac a gyflwynodd sawl golygfa annisgwyl o frawychus.

Fel yn achos cymeriad Oscar yng nghynhyrchiad ddyfeisgar The Dark Philosophers - hefyd gan National Theatre Wales - cafwyd "ellyll" hynod effeithiol yn achos y Madame Isis wrachaidd, a lwyddodd i gadw cydbwysedd perffaith rhwng y comig a'r grotesg diolch i berfformiad rhagorol gan Gwydion Rhys - enillydd Gwobr Richard Burton 2009 ac sydd i'w weld ar S4C yng nghyfres Zanzibar ar hyn o bryd.

Cerddoriaeth wych

Yn wir, roedd perfformiadau'r criw cyfan yn safonol tu hwnt ac yr oedd cerddoriaeth wych Flower Folk, yr "house band" - yn cynnwys Dafydd James ei hun - yn elfen bwysig a gyfrannodd gryn dipyn at y mwynhad gan gadarnhau unwaith eto fod na sail gadarn i'r heip am y dramodydd aml dalentog hwn.

Mae'n flin gen i ddweud, felly, ar 么l mwynhau'r sioe gymaint, i mi gael fy niflasu braidd wrth iddi nesau at y diwedd.

A minnau wedi dwlu ar berfformiad cabaret diweddar o gydweithrediad arall rhwng Dafydd James a Ben Lewis, y sioe gerdd un ddynes My Name is Sue, fel rhan o 诺yl Mardi Gras Caerdydd, a gwerthfawrogi swrealaeth a hiwmor tywyll yr wrth-arwres orffwyll honno (a chwaraewyd i'r dim gan Dafydd James), ro'n i'n falch iawn i'w gweld nhw'n datblygu sioe gerdd nid annhebyg ar gyfer National Theatre Wales.

Diweddu'n siomedig

Ond ar 么l yr adeiladu hir tuag at droad crefftus a chynhyrfus cefais fy siomi gyda diweddglo a oedd yn rhyfeddol o fflat a disymwth.

Fel un sydd ag alergedd i sioeau cerdd, cefais fy hudo'n llwyr gan enghraifft meistrolgar o'r genre - tan yr ennyd sigledig hon; a serch eu cyflwyniadau rhagorol ychwanegwyd at fy annifyrrwch gan y ffaith ei bod yn anodd deall rhai o eiriau'r gyfres o ganeuon yn y rhan olaf.

Serch hynny, gadewais y neuadd wedi mwynhau'n arw ar y cyfan a chael fy nychryn i'r byw a fy nifyrru hyd at ddagrau a, diolch i anhrefn afieithus pwyllgor y plwy, yn ysu i rannu'r newyddion mai yn neuadd bentref Cae Bach y cewch brofi hwyl mwya'r hydref hwn.
Lowri Haf Cooke


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.