Â鶹Éç

Sgint - Theatr Genedlaethol Cymru

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

09 Chwefror 2012

Adolygiad Gareth Miles o Sgint gan Bethan Marlow. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru. Theatr y Sherman, Caerdydd, Chwefror 7, 2012

Un o swyddogaethau'r Theatr yw cyflwyno i gynulleidfa gymeriadau, bywydau, profiadau a chymdeithasau sy'n ddieithr i lawer ohoni. Dyna wnaeth THCG gyda Llwyth Dafydd James a dyna un o amcanion eu cynhyrchiad diweddaraf, gallwn feddwl.

Drama 'gair-am-air' - verbatim, yn Lladin - yw disgrifiad yr awdur, Bethan Marlow a'r cyfarwyddwr, Arwel Griffiths o Sgint ac fe'i gwelais i hi'n debyg iawn i raglen deledu ddogfennol, vox pop am effeithiau'r dirwasgiad economaidd presennol ar Gaernarfon, neu draethawd cymdeithasegol ar ffurf cyfres o fonologau a dialogau wedi eu golygu a'u plethu i'w gilydd yn grefftus.

Y cast ar y llwyfan

Geiriau go iawn, pobol go iawn, a gyfwelwyd gan yr awdur ac actorion yn eu llefaru. Mae'r rhan fwyaf o'r areithiau yn ddiddorol, rhai yn ddoniol iawn ac ambell un yn ddirdynnol.

Credadwy

Cafwyd cameos credadwy o rai o bobol y Dre ac eithrio'r digrifluniau a'r gwawdluniau pan fyddai actor yn gorwneud y llais coman a'r acen Cofi. Nid yw actorion dosbarth canol yn difyrru cynulleidfa ddosbarth canol trwy watwar cymeriadau gwerinol at fy nant i.

Gwnaeth set Cai Dyfan a gwaith y coreograffydd Suzie Firth a'r cyfarwyddwr corfforol, Cai Tomos, lawer i arbed cynhyrchiad sydd o reidrwydd yn statig rhag syrffedu'r llygaid.

Yr actorion a'm plesiodd fwyaf oedd Morfudd Hughes, Dafydd Emyr, Emyr Roberts a Manon Wilkinson. Perfformiadau cynnil a chredadwy a llongyfarchiadau i THGC ar gyhoeddi'r sgript mewn diwyg deniadol a darllenadwy; dyletswydd ag esgeuluswyd gan yr oruchwyliaeth flaenorol.

llinyn storïol

Yn anffodus i mi, welais i mo Deep Cut, cynhyrchiad gair-am-air Theatr y Sherman a ddarluniai'r bwlio llofruddiaethol a ddioddefodd rhai milwyr ifainc yn un o wersylloedd Byddin Lloegr ond deallaf mai un o'i gryfderau oedd llinyn storïol cryf.

Nid yw hynny'n wir, am Sgint. Nid oes linyn storïol i'r gwaith. Dim ond thema, Pres, y cyfaddefa'r awdures iddi deimlo nad oedd yn gymwys i ymdrin â hi "achos dwi'n gwbod dim byd am wleidyddiaeth na economi Cymru na unrhyw wlad arall".


Ma pawb yn gwbod nad pobol dlawd sy'n diodda fwya mewn dirwasgiad, bod y dosbarth canol yn i gneud hi'n iawn ag wrth 'i bodda,

Cyfalafiath yn uffar o beth neu'n uffar o beth da, dibynnu ar dy safbwynt di, a'r Cofis yn gesus, ond tydan ni ddim callach ar ôl gweld Sgint, dim ond teimlo'n fwy dipresd nag oeddan ni ar y dechra.

Dyna pam, ma'n debyg, bod yr actorion yn downsio hefo'i gilydd ag aeloda o'r gynulleidfa ar diwadd a mags yn syrthio ar 'i penna nhw, i godi'n clonna ni, ia?

Calonnau yn y lle iawn

Mae calonnau Bethan Marlow ac Arwel Griffiths yn y lle iawn a'u bwriad yn gymeradwy ond mae ymdriniaeth theatrig drylwyr o effeithiau'r Dirwasgiad ar dref fechan yng Nghymru yn galw am ddealltwriaeth amgenach o'r sefyllfa nag un sy'n deillio yn unig o gydymdeimlad â'r difreintiedig ac euogrwydd dosbarth canol.

Geilw am arddull amgenach na naturiolaeth lafar, ddi-ddigwyddiad, hefyd.

Byddai realaeth Frechtaidd yn gwneud y tro, trwy ddadlennu achosion materol yr argyfwng, dangos sut mae'r rheini'n esgor ar argyfyngau personol ac awgrymu un neu ragor o ddatrysiadau posib.
Gareth Miles Pontypridd, 10/02/2012.

  • Bu Gareth Miles yn trafod y cynhyrchiad hefyd ar Raglen Dewi Llwyd fore Sul, Chwefror 12 ar Â鶹Éç Radio Cymru a gellir gwrando ar ei sylwadau ar wefan y rhaglen neu trwy glicio ar y prif lun uchod.

Y Daith

  • 07-11 Chwefror 2012 Caerdydd- Sherman Cymru 029 2064 6900

  • 21-24 Chwefror Galeri Caernarfon 01286 685222

  • 28-29 Chwefror Aberteifi- Theatre Mwldan 01239 621200

  • 03 Mawrth 2012 Y Drenewydd - Theatr Hafren 01686 614555

  • 06-07 Mawrth 2012 Caerfyrddin - Lyric 0845 226 3510

  • 09-10 Mawrth 2012 ABERYSTWYTH - Canolfan Gelfyddydau 01970 623232

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.