Adolygiad Janice Jones o The Pitmen Painters gan Lee Hall. Live Theatre Newcastle a Theatr Genedlaethol Theatr Clwyd. Hydref 1.
Er gwaetha'r ha' bach Mihangel a olygai ein bod yn graddol gael ein rhostio'n fyw, 'doedd dim smic o aflonyddwch yn Theatr Clwyd gydol y perfformiad o ddrama Lee Hall, The Pitmen Painters, brynhawn Sadwrn, Hydref 1.
Mae'r dramodydd, wrth gwrs, yn enwog fel awdur Billy Elliot, a'r un ymdeimlad o oruchafiaeth dros amgylchiadau heriol sy'n hydreiddio'r ddrama hon.
Drama am yr 'Ashington Group' yw The Pitmen Painters, sef criw o lowyr o bentref ychydig filltiroedd i'r gogledd o Newcastle-upon-Tyne, yn nhridegau cynnar y ganrif ddiwethaf.
Roedd y dynion yn awchu, nid yn unig am addysg, ond hefyd am rywbeth fyddai'n cynnig modd iddynt fynegi eu hunain ac ehangu eu profiadau ac wedi mynychu sawl cwrs a drefnwyd ar eu cyfer gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, gan gynnwys Daeareg ac Esblygiad, penderfynwyd gofyn am ddarlithydd i'w harwain mewn dosbarth Gwerthfawrogi Celf.
Egyr y ddrama gyda dyfodiad y darlithydd Robert Lyon ac ymateb y grŵp i'w sleidiau o ddarluniau o fyd celf clasurol. Afraid dweud nad dyma'r hyn y mae'r criw yn obeithio amdano, a thrawsffurfiad y darlithoedd sych cychwynnol hyn, yn ddosbarth celf ymarferol a ddaeth yn hynod llwyddiannus, yw byrdwn y ddrama.
Er bod nifer o aelodau'n perthyn i'r grŵp mae Lee Hall yn canolbwyntio ar nifer fechan ohonynt a'r rhain, i raddau helaeth, yn cynrychioli'r cyfan, ac er eu bod yn unigolion credadwy, yn dadlennu rhai elfennau cyfansawdd.
Cafwyd perfformiad meistrolgar gan Deka Walmsley fel George Brown, arweinydd awdurdodol y grŵp. A theimlwyd i'r byw angerdd Oliver Kilbourn, a chwaraewyd gan Trevor Fox, y glöwr mwyaf talentog, yr un a allai fod wedi gadael y gweddill ar ôl, a mentro gyrfa fel artist proffesiynol, wrth iddo orfod wynebu gwneud penderfyniad a fyddai'n gallu newid ei fywyd.
Daeth portread David Whitaker o Jimmy Floyd â chwa o ffraethineb hoffus i'r llwyfan, tra bo Michael Hodgson yn gwbl argyhoeddedig fel Harry Wilson, aelod deallus a dadleuol o'r grŵp.
Caboledig oedd dehongliad David Leonard o Robert Lyon, gyda'r gwahaniaeth amlwg rhwng ei acen ef ac acenion y glowyr yn cynnig cyfleoedd am droeon trwstan geiriol.
Amlygwyd hefyd y bwlch rhwng profiad y darlithydd a phrofiadau'r glowyr mewn modd oedd yn cydymdeimlo â hwy oll.
Cymerwyd rhannau hefyd gan Brian Lonsdale, Viktoria Kay a Joy Brook, gyda'r actorion i gyd yn ymgynnull ar y llwyfan ar ddiwedd y ddrama i ganu Emyn y Glowyr ar y dôn Gresford, gweithred oedd yn arbennig o ingol gan gofio mai bythefnos ynghynt y collodd pedwar o lowyr eu bywydau yn ne Cymru.
Roedd y set, a gynlluniwyd gan Gary McCann, yn lleoli'r ddrama yng nghwt y gweithwyr ble roedd y dosbarthiadau'n cael eu cynnal. Ond gan ddefnyddio tair sgrîn fechan uwchben y llwyfan, a hanner dwsin o gadeiriau mewn modd ddeheuig, roedd y cwt yn cael ei drawsffurfio yn nifer o leoliadau eraill. A chafwyd cyfarwyddo cyrhaeddgar a chyryog gan Max Roberts.
Nid sioe oedd yn dibynnu ar gimics o unrhyw fath mo hon: dyma ddrama oedd yn adrodd stori, stori deimladwy heb fod yn sentimental, stori criw o ddynion oedd am ddihangfa, am ganfod nod cyffredin ac uchelgeisiol. A'r cwbl yn cael ei fynegi drwy sgript werth chweil. Dyma ddrama gyda geiriau yn galon ac yn ganolog iddi hi: y sgript gref yn sylfaen ar gyfer llwyfaniad gwych.
Anodd dirnad, yn wyneb llwyddiant yr 'Ashington Group', yr ymateb negyddol a fu i bortreadau arlunwyr De Cymru, megis Evan Walters, Archie Rhys Griffiths a Vincent Evans, o'u cymunedau glofaol hwythau, oddeutu'r un cyfnod.
Yng ngeiriau Lee Hall, awdur y ddrama ysbrydoledig hon: "Culture is something we share and we are all the poorer for anyone excluded from it."
Janice Jones