Â鶹Éç

PATAGONIA - Yr Hirdaith / The Long Journey

Patagonia

06 Medi 2011

Sylwadau Glyn Evans yn dilyn gweld PATAGONIA Yr Hirdaitth / The Long Journey. Cynhyrchiad Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, 2011. Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug. Medi 5, 2011.

Tybiaf mai'r hunllef fwyaf i gyfarwyddwr neu gynhyrchydd sioe lwyfan yw gorfod ei gwneud yn ddwyieithog.

Mae rhywun yn prysur ddod i gredu fod cael cynhyrchiad dwyieithog esmwyth a fyddai'n boddhau pawb yn gwbl amhosib.

Ond o gynhyrchiad i gynhyrchiad dyma'r her sy'n wynebu Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a phob blwyddyn mae'n gwneud ymdrech lew i'w goddiweddyd.

Gyda'r cynhyrchiad eleni yn troi o gwmpas y mudo o Gymru i sefydlu Cymru newydd Gymraeg ym Mhatagonia yn 1865 yr oedd yr her gymaint mwy gan fod yr iaith mor ganolog i'r holl fenter.

Dim ond i raddau, fe fentrwn ddweud, y llwyddodd yr elfen ddwyieithog o'r cynhyrchiad gan roi mwy, mae'n debyg, i'r rhai hynny a ddeallai'r ddwy iaith.

Ymroddiad

Cychwynnodd y cwmni ar ei daith o gynhyrchiad Tim Baker yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, Medi 4 gydag ail berfformiad yng Nghlwyd Theatr Cymru Medi 5 a dau berfformiad yn Theatr Richard Burton, Coleg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, Medi 7 ac 8.

Cryn her o fewn ychydig ddyddiau i berfformwyr ifanc ond her a dderbyniwyd ganddynt ag arddeliad a'r ymroddiad hwnnw sy'n dod mor naturiol i'r cwmni hwn

Gallai teitl y cynhyrchiad, Patagonia, Yr Hirdaith - The Long Journey beri dryswch i'r rhai sy'n gyfarwydd â "Hirdaith Edwyn [Cynrig Roberts]" ond Hirdaith y cynhyrchiad hwn fodd bynnag yw'r saith mil o filltiroedd ar long hwyliau'r Mimosa i draeth ger y fan a elwir yn Borth Madryn erbyn heddiw.

Y daith honno sy'n mynd â'r rhan fwyaf o amser y cynhyrchiad gyda'r un rhan o dair olaf yn ymwneud â siom a dicter y mudwyr o gyrraedd gwlad o lwch a chrinder yn hytrach na'r werddon ir o ddyfroedd croyw a phorfeydd gwyrddlas a'u penderfyniad wedyn i ddal ati a bwrw iddi.

Nid bod ganddynt lawer o ddewis dan yr amgylchiadau a diau y bydd hanes eu gwyrth yn dofi'r fath le anghroesawgar yn destun cynhyrchiad arall i gydfynd â dathliadau canrif a hanner y fenter sydd ar y gweill ar gyfer 2015.

"Rydym erbyn hyn wedi meithrin cysylltiadau cryf â phobl ifanc a mudiadau ym Mhatagonia, ac rwy'n dyheu yn fawr y bydd ThCIC mewn rhyw ffordd yn chwarae rhan arwyddocaol yn y dathliadau fydd yn nodi 150 mlwyddiant taith y Mimosa, " meddai Tim Baker, cyfarwyddwr artistig y cwmni, yn rhaglen y daith bresennol.

Gallwn fawr obeithio hynny gan fod yr hanes hwn - bydded yn cael ei gyfrif yn un o ffolinebau hanes neu'n weithred o arwriaeth rhyfeddol, yn ôl eich safbwynt, yn cynnig ei hun i'r gwrthdaro hwnnw sy'n creu theatr dda.

Yn rhyfeddu

Ac mae rhywun yn rhyfeddu, fel Tim Baker ei hunan, i gyn lleied gael ei wneud o'r fath ddeunydd ar lwyfan.

"Sy'n syndod," meddai, "gan ystyried natur unigryw pendantrwydd y setlwyr i greu Cymru newydd y tu hwnt i Gymru, a'r angerdd sy'n dal i'w deimlo wrth sôn am ddyfodol y Wladfa Gymreig hyd heddiw."

Mae'n chwarel gyfoethog a anwybyddwyd i raddau helaeth mewn ffilm a llên hefyd am ryw reswm er bod sawl stori dda i'w dweud.

Golygfa gyfoes yw un olaf un y cynhyrchiad hwn i bwysleisio parhad y fenter hyd heddiw a chyndynrwydd disgynyddion y Cymry cynnar - a ffodd i greu Cymru newydd y tu draw i Gymru - i ollwng y rhan hon o'u hetifeddiaeth.

Mae'r freuddwyd honno o Gymru newydd, rydd a chyfartal, y tu draw i Gymru yn fyrdwn parhaol yn y cynhyrchiad hwn o'r olygfa gyntaf honno o'r Cymru a'u bagej yn disgwyl am long yn Noc 4 yn Lerpwl.

A chychwyn sigledig oedd o gyda chapten y Mimosa yn cyhoedd y byddai "y llong hon a chwithau yn mynd i lawr mewn hanes - neu'n jyst mynd i lawr".

Mewn cyfres o olygfeydd mae'r tri dwsin o actorion sydd ar y llwyfan yn cyffwrdd â holl galedi'r daith o farwolaeth plentyn i enedigaeth un arall o gael eu sgytio a'u hyrddio mewn storm i ddistawrwydd iasol y doldrums sydd yn un o olygfeydd mwyaf effeithiol y cynhyrchiad.

Cyfres o ddarluniau

Darluniau o'r fath yw'r strwythur ond mae rhywun yn holi tybed na fyddai'r cynhyrchiad wedi elwa o fod wedi cael stori bersonol yn llinyn i gydio'r cyfan wrth ei gilydd.

Ond y dewis fu cynhyrchiad tebycach i basiant nag i ddrama - ond annheg fyddai ei feirniadu am beidio â bod yr hyn na fwriadai fod.

Ac er nad yn cynhyrchiad mor uchelgeisiol ag eraill a welwyd gan Tim Baker o'r blaen yn ystod ei gyfnod yn gyfarwyddwr artistig go brin y bydd neb yn cwyno am berfformiad gyda sawl golygfa gofiadwy a nifer o ganeuon synhwyrus iawn.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.