Â鶹Éç

Martyn Geraint a'r Goeden Ffa

Martyn Geraint

05 Rhagfyr 2011

Adolygiad Gwyn Griffiths o Martyn Geraint a'r Goeden Ffa. Pantomeim 2011 Martyn Geraint sy'n awr ar daith o amgylch Cymru. Perfformiad yng Nghanolfan Y Mileniwm, Caerdydd.

Parhau i ddiddanu'r plant gydag egni ac asbri mae'r bythol wyrdd Martyn Geraint.

Dros bedair blynedd a mwy tyfodd a datblygodd ei gwmni ac y mae Jac a'r goeden Ffa yn gyfraniad graenus ac addas i'r tymor pantomeim.

Mae'r actio a'r canu'n ardderchog, a'r set yn glyfar a thaclus sy'n hanfodol pan fyddwch yn mynd a sioe ar daith a gorfod dygymod yn gyflym a gofynion gwahanol lwyfannau.

Mae'r sgript yn ardderchog, er bod braidd gormod o hiwmor tŷ bach at fy nant i ond, dyna ni, mewn stori sy'n ymwneud â ffa, efallai ei fod yn briodol o anochel.

A phwy ydw i, ryw greadur a fryniau Pontypridd, i farnu? Os yw'n mynd i lawr yn iawn gydag aelodau dosbarth canol Caerdydd a'u plantos rhaid nad oes dim llawer o'i le.

Difyr oedd gweld y plant yn ymuno'n afieithus gyda rhai o ganeuon Martyn. Mae wedi gweithio a meithrin to ar ôl to o rai ifanc ar deledu a jamborîs yr Urdd dros y blynyddoedd. Cyfrannodd a chyfansoddodd ddegau o ganeuon a chreu adnodd defnyddiol i athrawon ysgolion Cymraeg ac i rai sy'n dysgu plant ail iaith.

Chwareodd Dion Davies ran y fam - y "dame" - gydag afiaith ac roedd Meilyr Sion yn Sgweiar Drwg ardderchog gan chwarae rhannau ychwanegol y dyn gwerthu ffa a'r cawr shrinciedig - ystryw clyfar iawn - yr un mor daclus.

Roedd y ddwy ferch, Carys John fel Jac a Lisa Marged fel Anna - yn hyfryd gan brofi unwaith eto nad yw panto yn banto heb ferched pert.

Chwaraeai Martyn, yr awdur, ran Jim, brawd mawr twp Jac.

Daw Martyn a'i hwyl egnïol a'i ganu byrlymus i'r sioe. Wn i ddim pwy oedd yn chwarae rhan Mw-mw y fuwch gafodd ei gwerthu am ddwy sachaid fach o ffa ond haedda glod am berfformiad a ddenodd gydymdeimlad y plant.

Roedd yn brynhawn Sul mwyaf pleserus yng Nghanolfan y Mileniwn, Caerdydd - y plant a'u rhieni yn ymuno mewn cân ac ambell ddawns gyda digon o weiddi a chynghorion i'r actorion.
Gwyn Griffiths

Y daith

Dyma fanylion gweddill y daith a gychwynnodd yn Y Muni, Pontypridd, Tachwedd 22,

  • Theatr Y Lyric, Caerfyrddin - Rhagfyr 6
  • Neuadd Les Ystradgynlais - Rhagfyr 7 + 8
  • Neuadd Dwyfor, Pwllheli - Rhagfyr 12, 13 + 14
  • Galeri, Caernarfon - Rhagfyr 15, 16 + 17
  • Theatr Brycheiniog, Aberhonddu - Rhagfyr 19
  • Theatr Elli, Llanelli - Rhagfyr 20
  • Theatr Hafren, Y Drenewydd - Ionawr 10
  • Y Stiwt, Rhosllanerchrugog - Ionawr 11
  • Theatr Colwyn, Bae Colwyn - Ionawr 12
  • Theatr Felinfach - Ionawr 13
  • Theatr Congress, Cwmbran - Ion 16 +17

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.