Unigolion yn ymddwyn fel gwledydd. Dwy wlad fawr a gwlad fechan yn cael ei dal yn y canol rhyngddyn nhw wrth iddynt fwrw eu bendithion arni. A'i hamddiffyn. Ei defnyddio.
Sam (Iwan Charles) ydi'r Unol Daleithiau, Rws (Carys Gwilym) ydi Rwsia a Kyrg landeg - mae'r enw'n llithro i lawr y gwddf yn hyfryd ys dywed Sam - (Elen Gwynne) ydi Kwrdistan, un o wledydd bychain, gwantan, canolbarth Ewrop sy'n bwysig am wahanol resymau i'r ddau rym arall.
Gwerin gwlad yng ngwyddbwyll politics rhyngwladol.
Dameg hawdd
Ni fu'n rhaid wrth unrhyw grafu pen ynglŷn â dehongli'r ddameg ger ein bron.
Dameg a gyflwynwyd yn effeithiol iawn o ran llwyfaniad.
Wedi ymgasglu yn y cyntedd caiff y gynulleidfa fechan - nid oherwydd diffyg diddordeb gyda llaw ond oherwydd cyfyngiad ar y niferoedd y mae lle iddyn nhw - ei harwain i lawr coridor a thrwy fynedfa sy'n fflachio'n goch a'i rhoi i eistedd ar feinciau ar hyd dwy ochr i babell.
Mae naws filwrol i'r cyfan gan gynnwys milwr cydnerth blin yr olwg (Neil Wiiams) sy'n sefyll ar ddyletswydd a'i freichiau ar draws ei fron. Drwy ffenestr yn nhalcen y babell gwelir milwr arall wrth ddesg.
Mae synau i atgyfnerthu ias yr awyrgylch oddi allan i'n pabell.
Dydi rhywun ddim i fod i deimlo'n gyfforddus a dydi rhywun ddim.
Merch ifanc yn nillad ystrydebol gwerin canolbarth Ewrop yw'r cymeriad cyntaf i ymddangos. Mae'n ofnus ac ar ffo. Hi yw Kyrg.
Toc wedyn cyrraedd Sam a Rws i annerch i gyfeiliant cymeradwyaeth torfeydd gwerthfawrogol o'u neges warchodol a'u haddewid o gymorth, cynhaliaeth, amddiffyniad a rhyddid.
|Mae'n argoeli'n dda i'r gynulleidfa sydd yn aml o fewn llai na hyd braich i'r cymeriadau - gan gynnwys y milwr cydnerth, bygythiol sy'n dweud cymaint heb yngan gair gydol y ddrama. Yn fwriadol dyw'r actor sy'n chwarae'r rhan hon ddim yn cael ei enwi. Sgifi ydi o. Y dyn sy'n baeddu'i ddwylo i'r ddau arall gadw eu rhai hwy yn lân.
Theatr i blant a phobl ifanc ydi Cwmni'r Fran Wen - mae wedi diosg ei hen ddisgrifiad o 'Theatr Mewn Addysg' ond mewn ysgolion y mae'n perfformio fynychaf ac mae rhestr hir o ymrwymiadau Cymraeg a Saesneg rhwng dechrau Hydref a dechrau Rhagfyr.
Y perfformiad hwn - i rai dros 13 oed - yn Neuadd JP yw'r unig berfformiad cyhoeddus ac yr oedd yn gyfle gwych i rai fel fi gael cip ar y gwaith gwerthfawr mae'r cwmni hwn yn ei gyflawni.
Yn yr ysgolion sbardun i drafodaeth yw'r cynyrchiadau hyn ac y mae digon i'w drafod yn sgil Hawl am bob math o bethau yn amrywio o wleidyddiaeth i hawliau dynol.
Gellir ymuno â'r drafodaeth honno ar y we ar www.franwen.com/cymraeg/sioe/hawl/adborth.
Trawiadol heb lethu
Cymharol fyr yw'r cyflwyniad - llai nag awr. Digon hir i fod yn drawiadol heb fod yn llethol. Tebyg y byddai ambell ei gwmni wedi rhannu'r noson a chyflwyno ail gynhyrchiad i 'lenwi'r' noson. Camgymeriad fyddai hynny, yr oedd digon i'w dreulio yma ac yr oedd yn braf gadael gyda'r cyfan yn ffres yn y meddwl.
O ran tegwch â'r rhai sydd heb ei weld Hawl gwell peidio ag ymhelaethu ymhellach sut mae'r sefyllfa rhwng y tri yn datblygu; digon yw dweud bod yna sawl golygfa afaelgar ac anghyfforddus a'r rhai sy'n ymwneud â chas gwydr yn wir hunllefus gyda cherddoriaeth Osian Gwynedd yn ychwanegu'n fawr at yr awyrgylch o arswyd ac ofn.
O orfod, fel ag ym mhob dameg, caricadurau yw'r cymeriadau a'r actorion oll yn chwarae eu rhannau'n dda â'i gilydd.