Gellir gwrando ar sylwadau Catrin Beard am y ddrama o glicio ar y blwch llwyd isod
- Adolygiad Glyn Evans o Dau.Un.Un.Dim gan Manon Wyn ac Yn y Trên gan Sauders Lewis. Theatr Genedlaethol Cymru. Pontrhydfendigaid Mai 14.
Tybed beth wnaeth y gynrychiolaeth o'r blaned Theatricws Fwyaf sydd ynghudd yn ein plith i astudio cyflwr y theatr Gymraeg o'i hymweliad â phafiliwn Pontrhydfendigaid am 1930 nos Wener y pedwerydd ar ddeg o'r mis daearol, Mai, yn nawfed blwydd ein hail fileniwm, 2010?
Pymtheg o bobol ac un adolygydd ymgasglodd ar gyfer ail noson cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru OC (Ôl Cefin).
Dwy ddrama
Dwy ddrama gyda dau gymeriad yr un oedd yr arlwy - ac yr wyf yn defnyddio'r gair yn ei ystyr mwyaf llac posibl - gyda'r ail ohonynt - gan un o'n prif ddramodwyr a enwebwyd gyfer Gwobr Lenyddiaeth Nobel yn ystod ei oes - drosodd mewn rhyw ugain munud go lew a'r pymtheg, ac un adolygydd, yn llwybreiddio'n ddigon llwyd a distaw am adref.
Chefais i mo nghyffroi rhyw lawer.
Yn wir, gresynwn bod yr arferiad clodwiw o ganu Hen Wlad fy Nhadau ar ddiwedd digwyddiadau mawr o'r fath wedi peidio â bod gan y byddai hynny wedi dod a chic i noson yr oedd tywyllwch ei setiau yn adlais o'i naws.
Ar ei ffordd adref yr hyn yr oedd rhywun yn ceisio'i dyfalu oedd; cwmni theatr cenedlaethol pa wlad arall fyddai'n denu cynulleidfa o ddim ond 15 - ac un adolygydd - ar ail noson cynhyrchiad newydd sbon a fyddai'n teithio'r wlad?
Yn amlwg, mae rhywbeth mawr o'i le yn rhywle. Oes wiw awgrymu mai'r ateb yw; yr hyn sy'n cael ei gynnig?
Peryg y byddai hynny'n cael ei weld fel diniweidrwydd o faintioli dramatig ar fy rhan. Sori am hynny.
Ar fy ffordd yno bum yn dyfalu hefyd, gyda phob parch, pam cychwyn taith genedlaethol ym Mhontrydfendigaid ond erbyn gweld yr oedd i brif ddrama'r noson, Yn y Trên gan Saunders Lewis, elfennau lleol gan mai o Gaerfyrddin i Aberystwyth y teithiai'r trên ac fe gafodd llinellau fel "Dydw i ddim eisiau tocyn i Dregaron, oes golwg potsiar arna fi" ac "Aeth na neb erioed i Aberystwyth heb fod raid" laff neu ddwy; wel mi gymrodd rhai yn y gynulleidfa ei hanadl yn sydynach a gogrwn yn eu seddau.
Doedd y trên, mwy na'r theatr, ddim yn llawn. Un teithiwr mewn het Gari Tryfan (Rhodri Meilir) wedi sleifio heb docyn i gerbyd dosbarth cyntaf, ac un docynwraig (Lowri Gwynne) yn ceisio'i gael i dalu'i ffordd ac yntau'n dadlau pethau fel nad oedd o'n mynd i le'n byd ond yn aros yn ei gerbyd - dim ond y trên oedd yn symud.
Clyfar.
Dros ddeugain mlynedd
Dyddiwyd y ddrama dros ddeugain mlynedd yn ôl yng nghyfnod gorsafoedd caeedig Dr Beeching a ddisgrifiwyd, rwyf bron yn siŵr, fel ysgrifennydd gwladol er mai cadeirydd British Rail oedd o.
Tybed hefyd, a fyddai merch yn giard ar drên yn yr ardal hon yr adeg honno.
Fel drama radio y sgrifennwyd hi ond y ddau lwyfaniad ym Mhontrhydfendigaid oedd ei pherfformiadau cyntaf ar lwyfan ers iddi gael ei chyhoeddi yn Barn yn 1965.
Broliai rhaglen y noson ei helfennau abswrd a rhaid dweud i minnau hefyd deimlo'r mymryn lleiaf yn abswrd wrth ei gwylio.
Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan Saunders Lewis yr oedd iddi 'negeseuon' hefyd fel yr awgrymai'r geiriau ynddi a godwyd ar gyfer wynebddalen y rhaglen yn sôn am deithio yn y nos mewn trên yng Nghymru gyda'r nos o'ch blaen. "Teithio tua'r nos . . . nos Cymru".
Ac mewn dialog Fecetaidd o'r fath cymharwyd taith y trên a thaith bywyd. Mae bywyd yn drên ys dywedodd T H Parry-Williams flynyddoedd ynghynt.
Er bod y cyfan yn ddigon hwyliog - a difyr hefyd - fu yna ddim rhyw hwre fawr ar y diwedd a chlywais i neb yn dweud, "Dew, y bachan Saunders na - dipyn o foi."
Ond o ran tegwch yr oeddwn i wedi gadael yn sydyn i deithio drwy'r tywyllnos mewn car. Tywllnos y theatr Gymraeg fel sefydliad cenedlaethol? Tybed?
Mewn gwirionedd, yn y ffaith mai rhywbeth 'gwahanol' ac annisgwyl gan Saunders Lewis y gorweddai difyrrwch yr amgylchiad a chywreinrwydd rhywun ynglŷn â hynny.
Yn y dyfodol
Yn y tywyllwch y chwaraewyd hefyd y ddrama arall, Dau.Un.Un.Dim, gan Manon Wyn - a berfformiwyd yn ystod awr gyntaf y noson.
Drama ddystopaidd, dywyll o ran ei goleuo a'i hawyrgylch wedi ei lleoli yn y flwyddyn 2110 mewn cymdeithas wedi ei rhannu'n ddau fath o bobl, y pur a ddatblygwyd gan wyddonwyr ac arbenigwyr genegol a'r amhur a halogwyd yn sgil eu harbrofion.
Cymdeithas wedi ei bridio'n lân o emosiwn a lle'r ystyriwyd celf yn wendid.
Fel gydag Ar y Tren eisteddai'r gynulleidfa y naill ochr a'r llall i'r llwyfan ac ar y wal o'n blaenau tafluniwyd o bryd i'w gilydd luniau o'r hyn a ddigwyddai ar y llwyfan gan awgrymu bod rhyw frawd mawr sinistr yn gwylio nid yn unig y cymeriadau ond ninnau hefyd.
Yn wir, ar y sgrin y dechreuodd y ddrama gyda golygfa o ferch mewn labordy (?) yn llowcio rhyw drwyth gan ynganu'r geiriau, "Er mwyn i'r hil barhau; rhaid glanhau" cyn cael ei chipio a'i chario oddi yno a chyrraedd y llwyfan o'n blaenau.
Dyma gynrychiolwyr yr amhur a'r pur, Brân (Rhodri Meilir) ac Awen (Lowri Gwynne).
Ef yn giciwr yn erbyn y tresi cyfundrefnol ac yn derorist wedi ei lurgunio a'i anharddu'n gorfforol ac wedi ei herwgipio hi, y gyntaf o'r bobl berffaith i'w chreu, i adfeilion lle mae'n llechu rhag yr awdurdodau.
Gwrthdaro geiriol
Mae'r gwrthdaro yno rhwng y ddau yn eiriol - gan fwyaf - ac yn gorfforol - weithiau - wrth iddynt am yn agos i awr ymryson a'i gilydd a'r oruchafiaeth yn gogwyddo o un i'r llall.
Dan gysgod eithaf sinistr yr ymryson dadleugar hwn y down i wybod am y gymdeithas, ei chymhellion a'i bwriadau a hynny i gefndir o synau seirans heddlu a gwasanaethau brys o'r tu allan ac ambell i sŵn annisgwyl sy'n peri mwy o ddychryn.
Drama eiriol yw hi ac yn un, mae rhywun yn meddwl, a fyddai wedi gweithio'n well o bosib ar radio.
Ond tybed nad oes mwy i ddrama na dadlau, trafod, gwyntyllu syniadau a gwrthddadlau? Aeth y disgwyl i rywbeth ddigwydd yn drech na mi.
Ond diau, bod lle i ganmol parodrwydd ein Theatr Genedlaethol Gymraeg i gymell a rhoi llwyfan i ddramodydd newydd a'i chymryd dan ei hadain am bedair blynedd i ori ar y syniad gwreiddiol.
Yr oedd ôl y 'gweithio' a'r caboli ar y 'sgript' gyda llu o linellau gwirebaidd fel, "Ydi clwydda yn dal yn glwydda os wyt ti'n i feddwl o ar y pryd" ac "Os oes gen ti yr holl liwiau Brân pam wyt ti ond yn peintio'n ddu".
Ond sawr 'ymarferiad' oedd i'r canlyniad a thybed na fyddid wedi elwa o roi yr un sylw i blotio ac a roddwyd i'r geiriau er mwyn troi'r syniad diddorol yn fwy o theatr.
Chefais i mo mherswadio bod hwn yn arlwy theatr genedlaethol.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Nid pawb
Nid felly y gwelodd pawb hi ac fe fydd y rhai sy'n gwrando ar sylwadau Catrin Beard ar Raglen Dewi Llwyd fore Sul Mai 16 (Clicio ar y blwch llwyd) yn cael adwaith tra gwahanol gyda chanmoliaeth cwbl ddigyfaddawd i'r ddau gynhyrchiad.
Nid i'r doeth a'r deallus y dywedodd Daniel Owen yr ysgrifennai ef "ond i'r dyn cyffredin".
Gellid maddau imi am dybio mai'r gwrthwyneb yw athroniaeth Cwmni Theatr Genedlaethol y Cymru.
A'r tro hwn bu'r cwmni yn ddigon anffodus ag i gael adolygydd digrebwyll, anneallus a chyffredin iawn, iawn, i lunio'r sylwadau hyn. Rwy'n ymddiheuro am y diffyg hwnnw ar fy rhan.
Sori.