Â鶹Éç

Cwmni'r Fran Wen - Dim ID

Chloe Jordan a Natasha

18 Tachwedd 2009

Adolygiad Glyn Evans o Dim ID gan Bedwyr Rees. Cwmni Theatr Mewn Addysg y Fran Wen. Galeri, Caernarfon, Tachwedd 17 2009

Rhan o ddathliadau pen-blwydd Cwmni'r Fran Wen yn 25 oed oedd y perfformiad hwn o Dim ID - cyflwyniad yn ymwneud â beichiogrwydd ymhlith yr ifanc dan 16 oed - gyda joch o yfed dan oed a meddwi.

Rwy'n dweud cyflwyniad gan yw'r cynhyrchiad tri actor yn ddrama yng ngwir ystyr y gair er bod iddo elfennau dramatig.

Sbarduno trafodaeth

Y bwriad yw i hanes Chloe 15 oed (Fflur Medi Owen) sbarduno trafodaeth ymhlith plant a phobl ifanc o gwmpas yr un oed â hi.

Darlunnir blwyddyn yn ei bywyd - blwyddyn pryd mae'n cael cyfathrach rywiol feddwol gyda Jordan (Aaron Morris) cariad 23 oed Natasha sy'n ffrind gorau Chloe (Elen Gwynne sydd hefyd yn chwarae rhan Mam Chloe).

Mae'r holl hanes yn troi o amgylch argyfwng Chloe yn ferch ysgol - sy'n gorfod wynebu penderfyniadau mawr fel cadw ynteu erthylu'r babi - ac i raddau llai gyfrifoldebau Jordan fel tad a pherthynas Chloe a Jordan wedi'r damej.

Cynhyrchiad i blant ysgol ydi o ac ar gyfer y perfformiad a welais i tynnwyd y gynulleidfa o'r seddau arferol yn yr awditoriwm i eistedd o amgylch y set o fewn hyd braich i'r actorion.

Er yn gynnil a syml roedd set Gwyn Eiddor Parry yn effeithiol. Ystafell sgwâr gyda waliau tryloyw y gall y gynulleidfa wylio'r perfformiadau drwyddyn nhw.

Mae'r ystafell hon yn fodd i gyfleu cyfyngder Chloe yn effeithiol iawn a'r pwysau affwysol sydd arni wrth i'w byd gau amdani a hithau heb wybod at bwy i droi.

Edrychai y rhai hynny ohonom eisteddai yn y seddau arferol nid yn unig i lawr tuag at yr actio ond dros ben y gynulleidfa hefyd ac yr oedd hynny ynddo'i hun yn ddifyr - gwylio'r gynulleidfa yn gwylio'r perfformiad.

Cafwyd gwrandawiad astud - ambell un yn plygu mlaen ar ymyl ei sedd. Ni adawodd neb am na thÅ· bach na dim ac ni fu siarad ymhlith ei gilydd.

Mae hynny'n glod i'r cynhyrchiad.

Doedd popeth ddim yn taro deuddeg, weithiau doedd y meim a ddefnyddiwyd ddim yn ychwanegu at y dehongliad ond o ystyried popeth cafodd rhywun ei blesio.

Yn gynhyrchiad ar gyfer pobol ifanc yr oedd yna, drwy statud bron rwy'n siwr, lawer o ddefnyddio geiriau ac ymadroddion fel so, rili, minji, pathetic ac yn y blaen ond doedd hynny ddim yn mennu mewn gwirionedd a chafwyd sawl tamaid blasus o ddeilaog fel "Mae'r bymp yn berson rwan" a hyd yn oed "Dwi'n nacyrd, hyll ac unig.

Sgwrs cyn cychwyn

Cyn cychwyn y perffermoriad cafwyd sgwrs gan aelod o gwmni'r Fran Wen yn egluro pwrpas y cynhyrchiad a threfn y pnawn ac addewid y byddai cyfle i holi Chloe a Jordan ar y diwedd a'r sicrwydd na fyddai unrhyw gwestiwn am "secs" yn peri embaras i neb.

Dydw i ddim yn siwr oedd angen y sgwrs hon - yn sicr doedd dim angen iddi fod cyn hired ac roeddwn i'n synnu na fu gwaedd o "geronwiddit" o rywle. Llawn cystal imi frathu nhafod efallai.

Holi a stilio

Ta beth, wedi iddyn nhw geronwiddit a'r 'ddrama' drosodd dychwelodd y 'plant' i'w seddau pryd cafwyd pregeth arall cyn tynnu Chloe a Jordan ger eu bron i gael eu holi - a hynny fesul un er y byddai'n well gen i fod wedi gweld y ddau efo'i gilydd a chyfle i'r naill ymateb yn syth i atebion y llall.

Rwy'n edmygu'r actorion am gytuno cymryd rhan yn yr ymarferiad hwn a'i wneud o gystal. Go brin ei fod yn rhywbeth hawdd i'w wneud yn enwedig yn syth wedi bod yn perfformio.

Cadeiriwyd y sesiwn hwn gan gynrychiolydd y cwmni gyda'r mymryn lleiaf o duedd i siarad dros yr actorion yn hytrach na'u llywio nhw a'r gynulleidfa i ymrafael â'i gilydd.

Ac ymylai ambell i "Gai jyst ddweud wrtha chi" at fod yn bregeth-arall-gan-mam neu athrawes - ond â bod yn deg ni welais neb yn adweithio'n ddifynedd i'r hyn oedd yn digwydd ac yn cael ei ddweud.

Heb os, bu'r pnawn yn fodd i gael yr union bobl y gallai'r pethau yn Dim ID effeithio arnyn nhw i feddwl, i ystyried ac i siarad ac i weld nad yw'r rhan fwyaf o sefyllfaoedd yn y byd go iawn yn rhai mor ddu a gwyn ei bod yn hawdd dod i benderfyniad ynglŷn â hwy.

Bydded i'r Fran Wen hedfan am bum mlynedd ar hugain arall.


Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.