- Adolygiad Glyn Evans o gynhyrchiad Theatr Bara Caws o Deryn Du. Cyfieithiad Bryn Fon o Blackbird gan David Harrower. Neuadd Ogwen, Bethesda, Ebrill 13 2010.
Byddai hanner awr gyntaf y ddrama hon wedi bod gymaint gwell pe byddai rhywun yn gwybod dim amdani gan fod y sgwrs rhwng y ddau gymeriad Mei a Lora (Bryn Fon a Fflur Medi) yn achos pob math o ddyfalu cyn cyrraedd cwestiwn ffrwydrol Lora, "A faint o ferched eraill deuddeg oed wyt ti di cael secs efo nhw?"
Yn anffodus, gan fod cefndir Blackbird mor wybyddus ni all rhywun ond dychmygu erbyn hyn effaith y datgeliad ysgytwol sy'n graidd i'r ddrama ar gynulleidfa'r perfformiad cyntaf yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin 2005.
Byddai wedi bod yn brofiad theatrig i'w drysori bod yn rhan o hynny.
Dros y blynyddoedd daeth y ddrama yn un mor adnabyddus a chynulleidfaoedd mor gyfarwydd â'i phwnc y collwyd yr ysgytiad hwnnw.
Ond hyd yn oed wedyn mae gan y ddrama lawer i'w gynnig fel y dengys y trosiad Cymraeg cyntaf erioed hwn.
Dau gymeriad
Dau gymeriad sydd yna ar y llwyfan, Mel / Peter 56 oed a Lora 27 - y ddau yn dadberfeddu perthynas rywiol a fu rhyngddyn nhw bymtheng mlynedd ynghynt pan oedd o'n ddeugain a hithau ond yn ddeuddeg oed gan arwain at ei garcharu ef am bedair blynedd.
Ers ei ryddhau creodd Mel fywyd - ac enw, Peter - newydd iddo'i hun ac mae popeth yn mynd yn iawn nes i huddugl ei orffennol syrthio i botes ei lwyddiant gydag ymweliad annisgwyl Lora ar gychwyn y ddrama.
 phaedoffilia yn bwnc mor atgas ac yn arfer na allai neb rhesymol ei esgusodi ar unrhyw gyfrif heb sôn am ei gyfiawnhau mae'n anodd meddwl am hon fel drama sy'n rhoi mwynhad yn yr ystyr arferol ond diolch i actio trawiadol Bryn Fon a Fflur Medi a chyfarwyddo medrus Sion Humphreys mae hwn yn gynhyrchiad gafaelgar.
Sawl haen
Gyda sawl haen i'r sefyllfa mae'n arwyddocaol iawn sut y gorfodir y gynulleidfa i ochri - byddai cydymdeimlo yn air camarweiniol - â'r naill gymeriad a'r llall wrth geisio amgyffred, yn gyntaf, ac wedyn ddeall yr hyn sydd wedi digwydd.
Gorfodir ni i ofyn i ni ein hunain yr un cwestiynau annifyr ag y mae Harrower yn eu gofyn a hyd yn oed wynebu'r posibilrwydd hyll tybed nad oes du a gwyn hyd yn oed mewn sefyllfa fel un Mel a Lora.
Lora er enghraifft wedi ei disgrifio gan y Barnwr a garcharodd Mel fel plentyn ag iddi feddwl "amheus o aeddfed" ac yn cyfaddef iddi fod â crush ar ffrind ei thad.
Mel, wedyn yn pledio mai cariad ac nid chwant oedd yn ei yrru gan ddadlau ei fod yn wahanol i wir baedoffiliaid gan ddweud nad oedd "yn un o'r rheina".
Rhaid i ni benderfynu ai un a gafodd gam oedd o ynteu pyrfyrt ystrywgar.
Wynebu cwestiynau
Yn ddrama nad yw'n cynnig 'mwynhad' yn ei ystyr arferol mae'n bosib mai gwir werth Deryn Du yw bod yn sbardun i wynebu cwestiynau a safbwyntiau anghyfforddus nad ydynt yn cael eu hateb yn y ddrama - er bod tro annisgwyl yn yr olygfa olaf yn rhoi rhyw awgrym lle mae'r awdur am arwain y gynulleidfa wedi inni gael ei llywio tan hynny i sawl cyfeiriad gwrthgyferbyniol arall wrth i'r ddau gymeriad ddadberfeddu eu hunain a dehongli eu hanes yn ddramatig iawn i'w gilydd mewn awyrgylch ffrwydrol o dyndra ag iddi elfennau digon sinistr ar adegau.
Mae'n wir dweud fod yr effaith wedi'r ddrama - y blas yn y geg, y boen yn y meddwl ar ôl gadael y theatr - yn sylfaenol i'r cynhyrchiad hwn sy'n ein gorfodi i gwestiynu ymdriniaeth cymdeithas o'r halogedig yn ogystal â'r halogwr mewn achosion o'r fath.
Ar wahân i'w syniadaeth; o safbwynt dramatig pur mae hon yn ddrama afaelgar a chrefftus iawn o'i hagoriad chwilfrydig a thrwy ei hamryw uchelbwyntiau i'w diweddglo iasol o amhendant.
Mae'r tyndra rhwng Mel a Lora yn cael ei gynnal yn fedrus iawn gan yr actorion. Ef bellach yn ei bumdegau parchus a hithau yn ferch ifanc hynod ddeniadol a lluniaidd a'i hunanhyder rhywiol ond yn cael ei fradychu gan sigl nerfus ei throed pan yw'n croesi ei choesau.
Cefndir Cymreig
Ar gyfer y cynhyrchiad addaswyd y ddrama ar gyfer cefndir Cymreig - mae'r ddau yn mynd i westy yn Aberafan yn hytrach na Tynemouth y Saesneg er enghraifft.
Mae'n Gymreigio sy'n argyhoeddi'n llwyr ac ar adegau yn medru cyflwyno haen ychwanegol o ystyr nad oedd yn bosibl yn y Saesneg gwreiddiol megis yn yr olygfa agoriadol gyda'r defnydd o ti (hi wrtho fo) a chi (ef wrthi hi) yn y sgwrs gychwynnol.
Gan mai'r cynhyrchiad Cymraeg hwn fydd profiad cyntaf nifer ohonom o'r ddrama ar lwyfan braf gallu dweud ei fod yn argyhoeddi.
Go brin bod angen ychwanegu bod hwn yn bwnc gyda'r anoddaf i'w drafod heb le o gwbl i esgusodi ac yn sicr gyfiawnhau hylltod mor ofnadwy a phaedoffilia a chamddeall y ddrama fyddai ei chyhuddo o hynny.
Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd ymateb cynulleidfaoedd ar lawr gwlad i gynhyrchiad mor fentrus.
Fel y dywedodd un beirniad wrth adolygu cynhyrchiad Saesneg o'r ddrma;
"Ewch i'w gweld - os oes gennych y stumog"!