麻豆社

Bara Caws - Croesi'r Rubicon. Adolygiad

Valmai Jones a Christine Pritchard

04 Chwefror 2010

Adolygiad Alwyn Gruffydd o Croesi'r Rubicon. Theatr Bara Caws. Neuadd Dwyfor, Pwllheli.

Rai blynyddoedd yn 么l roedd fy mam a modryb i mi'n awyddus mynd i weld, yn eu hoed a'u hamser, ffilm arswyd enwog Alfred Hitchcock, "Psycho, yn Neuadd y Dref Pwllheli.

Roedd y ddwy wedi clywed am y ffilm a'i chynnwys ac yn dra phryderus o fynd i'w gweld eu hunain a chytunais fod yn gwmni i'r ddwy ac, yn 么l y disgwyl, roeddent (a minnau hefyd o ran hynny) ar flaenau'u seddi drwy gydol y ffilm bron.

Yn wir cymaint fu'r dychryn yng ngolygfa erchyll y gawod yng Ngwesty Norman Bates fel i fy modryb neidio cymaint nes cwympo llond bag papur o afalau at lawr y sinema gan beri i'r rheini wasgaru i bob cyfeiriad.

O ganlyniad, wrth i bawb arall yn y gynulleidfa'r noson honno edrych yn gegrwth ar un o'r golygfeydd mwyaf dychrynllyd yn hanes y pictiwrs roedd y tri ohonom ni yn ein dyblau'n chwerthin ar ben digrifwch anffawd fy modryb - a thynged yr afalau.

Mwy o chwerthin na dychryn

Daeth doniolwch y digwyddiad hwnnw i gof pan ddychwelais i Neuadd y Dref Pwllheli - neu Neuadd Dwyfor erbyn hyn - ar gyfer noson gyntaf cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, Croesi'r Rubicon.

Hynny am ddau reswm. Mae Croesi'r Rubicon yn rhyw fath o ddrama arswyd. Ond mae'n ddrama arswyd, ysywaeth, sy'n cymell mwy o chwerthin nac o ddychryn.

Yn wir fel comedi melodramatig y disgrifir hi gydag elfennau o ffars ac o ffilmiau arswyd Hammer - yn enwedig y defnydd o gerddoriaeth mewn ymgais i greu'r awyrgylch o ofn ac ansicrwydd - yn britho'r cynhyrchiad.

Yr olaf o dair

Ffrwyth dychymyg Valmai Jones yw Croesi'r Rubicon - y drydedd mewn cyfres o dair drama ganddi sy'n perthyn i'r un genre. Actus Reus a Dulce Domum oedd y ddwy gyntaf.

Bu Valmai'n un o hoelion wyth y Gomedi Gymraeg ac yn arbennig gynyrchiadau Theatr Bara Caws ers degawdau fel actores ac fel dramodydd.

Hi hefyd sy'n chwarae'r prif ran. Mae'r plot yn un syml odiaeth. Mae Esme, gwraig weddw dlawd, yn chwilio am ddechrau newydd i'w bywyd gorthrymgar a thrychinebus ac yn derbyn gwaith yn ofalwr bwthyn unig yn y wlad tra bo'r perchennog oddi cartref.

Mae'r t欧, fel ei berchennog, yn llawn cyfrinachau ac mae pryderon Esme'n dwysau gyda dyfodiad ymwelydd annisgwyl.

Dim ond dwy

Dau gymeriad yn unig sydd yna i'r ddrama a chwaraeir rhan Ruth gan hen law arall ym myd y ddrama Gymraeg, Christine Pritchard.

Mae perfformiadau'r ddwy actores, yn 么l eu harfer, yn lan a thaclus er efallai'n goractio'n fwriadol er mwyn yr effaith.

Ar 么l dweud hynny nid yw Ruth, er yn fwli cas o'r radd flaenaf, yn ddigon arswydus o'r hanner i godi ofn ar unrhyw un, ac nid yw Esme ychwaith yn ddigon ofnus i ennyn emosiwn o'r fath o du'r gynulleidfa.

A dweud y gwir, heblaw am ymddangosiad sydyn y sgerbwd plastig a'r ergyd gwn hirymarhous prin fod yna ddychryn arall o gwbl ar gyfyl y cynhyrchiad.

Dyna'r bwriad?

Ond efallai mai dyna oedd bwriad y dramodydd, a'r cyfarwyddwr, Bryn F么n. Efallai mai creu sgit ar ddrama arswyd gyda'u tafodau yn eu boch oedd eu hamcan. Os felly bu'n llwyddiant er bod y rhesymeg dros symudiad y ci yn nyfnder nos yn parhau'n ddirgelwch i mi.

Llwyddodd y cynllunwyr, Emyr Morris-Jones a Gwyn Eiddior, i greu set oedd yn ateb y diben i'r blewyn. Doedd y ddrama ddim yn cynnig cyfle iddynt wneud ddim byd arall.

Felly i grynhoi. Nid yw Croesi'r Rubicon yn ddrama fawr. Does dim neges, athroniaeth na chynildeb yn perthyn iddi. Ond y mae hi'n adloniant difyr a dyna yn y b么n yw hanfod pob drama a phob perfformiad llwyfan o ran hynny.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Iwan Edgar ar 麻豆社 Radio Cymru

"Fe wnaeth lwyddo," oedd ymateb Iwan Edgar i'r cynhyrchiad wrth ei adolygu ar Raglen Dewi Llwyd, 麻豆社 Radio Cymru. Fore Sul Chwefror 7 2010.

Er nad yn syfrdanol wreiddiol o ran ei motifau a'i phatrymau "fe wnaeth lwyddo" meddai wrth dewi Llwyd.

Disgrifiodd y ddrama fel heibrid o rywbeth yn rhoi neges go iawn a chomedi o fath ac yn ddrama oedd yn dadlennu yn daclus iawn.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.