- Adolygiad Iwan Edgar o Chwilys gan Aled Jones Williams. Cwmni Theatr Tandem. Pwllheli Ebrill 1 2010
Wele gocoendra y dosbarth canol Cymraeg, yn fwy penodol yr ysgolheicfyd Cymraeg dan chwydd wydr. Er ei wendidau mae'n si诺r bod yna nodweddion cymeradwy, eto, damia mae pethau yn mynd ar nyrfs rhywun, ac ydy' mae rhywun yn rhan o'r gybolfa ei hun hefyd.
Yn Fotzart ac yn Gyffin Williams, yn Dryweryn yn Bacistan, yn Arwisgiad ac yn Wooton Basset: teisen gymysg y Gymru fach a'r Byd mawr yn sboncio'n 么l a blaen rhwng dau dienw (Owen Arwyn a Martin Thomas o ran eu henwau go iawn).
Na chwilied am atebion go iawn, 'mond ateb 么l a blaen ping-pongllyd.
O'r wardrob
Owen Arwyn (waeth i mi ddefnyddio'i enw iawn o, gan nad oes yna ddim un arall) yn ddifrifol lywaeth dan erlid a gwarchae Martin Thomas sy'n llamu i'w fychanfyd clyd o'r wardrob - yr hon sydd ganolog ar gledr llaw'r llwyfan.
Braidd fel bronwen wedi dal cwningen, y mae'n hambygio ac yn wir yn arteithio ei ysglyfaeth. Dyna hi, am wn i, y ddrama'n gryno.
Owen Arwyn yn gwisgo'n normal. Mae Martin Thomas yn ddiflewyn ac yn wyn fel y galchen, petai wedi cael mwy o geg goch byddai'n perthyn yn agos i Joker archelyn Batman, yn chwerthin gwneud ac yn ffug foesgar i gyd.
Yr actio a'r cyd-chwarae yn debol a'r symud o gwmpas yn fwriadol gadw rhag peryglon i gynulleidfa sb茂o ar watjis, ac i'r un perwyl y m芒n bropiau a'r troi stori yn y dialog.
Fawr o daith
Hawdd y gallai hyn o fformiwla ddistori fod yn troi yn drwm. Duw a 诺yr am ambell i brop a phwrpas - dim byd i fod efallai - dim ond dr茂a-ni-hwn - a waeth trio pypet a phasport a ff么n bach bob hyn a hyn a ballu.
Ia, nid taith - neu nid fawr o daith - i unman sydd yma. Cnoi cil am gariad a gwleidyddiaeth a gorthrwm a chyfiawnder a chrefydd a chysyniadau a phethau diwylliedig a diwyllgar a diwyll-llyd ( ia yn dibynnu o ba ogwydd y'i trafodid).
Y dosbarth canol yn trafod y dosbarth canol oedd y cyhuddiad a gaed yn y ddrama am bethau fel y ddrama ei hun a dyna oedd y ddrama, fedrai hi ddim osgoi hynny. Anorfod ymfogeilio.
Wedi dweud hynny, roedd y trwch dosbarth canol a gynhesai'r seddi ym Mhwllheli yn ddigon diwingo y'u pedreiniau am yr awr a chwarter. Efallai y byddai wedi bod yn anodd cynnal y peth yn hwy. Fel y dywedais, dichon fod y troi cyson yn y cynnwys a'r chwarae a'r symud a'r m芒n bethau yn allweddol i gadw diddigrwydd.
Mwynhau?
Y cwestiwn ystrydebol i gloi: Wnes i fwynhau hi tybed?
Wel do, am wn i, 'dwn i ddim yn hollol chwaith, ond wedyn wn i ddim chwaith oeddwn i fod i fwynhau.
Mi fuasai meddwl yn daclus fel yna braidd yn hen ffasiwn a threfnus.
A dyma Martin Thomas yn saethu ei hun ar y diwedd hefo'r gwn James Bond hwnnw oedd ganddo i chwarae hefo fo drwy'r peth gan lefaru "Coc o fan" (o'i sillafu'n Gymraeg).
Aed felly i gloriannu perthnasedd y saig bwrgeisiol hwnnw - Coc o fan amdani felly - mae'n ddadlennol o ystyr ein bodolaeth debyg.
(Ond bydd dewis amgen ar y fwydlen i'r rhai ohonom nad ydynt yn bwyta cig). Beth gythril mae hynna'n i feddwl ?
Dwim yn si诺r.
Dio otj ?
Wn i ddim.
Ella.
Iwan Edgar.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Adolygiad radio
- Angharad Elen fu'n adolygu'r ddrama ar gyfer 'Rhaglen Dewi Llwyd' ar 麻豆社 Radio Cymru. Gellir clywed beth oedd ganddi hi i'w ddweud fore Sul Mawrtrh 28 2010 trwy glicio ar y blwch llwyd gyferbyn.