Cath ddall ydi arwr annisgwyl llyfr i blant sydd newydd ei gyhoedd - Morgan y Gath Ddall gan Llinos Griffin.
Pum stori sydd yn y llyfr am y gath sy'n byw yng Nghaerdydd sydd a chryn ddoniau er yn ddall.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Ac wrth gael ei holi gan Caryl Parry Jones ar Â鶹Éç Cymru fore Mercher Hydref 28 2009 datgelodd bod Morgan wedi ei sylfaenu ar gath go iawn - cath neb llai na'r Prifardd Twm Morys a'i wraig Sioned.
"Sioned ddaeth a'r syniad gan fod y gath yn medru gwneud pethau efo synhwyrau eraill - ond yng Nghaerdydd y gosodwyd Morgan gan fod hynny yn rhoi mwy o sgôp iddo fynd ar anturiaethau," meddai Llinos sydd, meddai, wedi bod yn sgrifennu ers gadael coleg yn 2003 ac wedi bod yn addasu DVDs i blant.
Ychwanegodd mai anabledd y gath sbardunodd y straeon yn y lle cyntaf ac mae'r llyfr yn gwneud ymdrech amlwg i ddangos sut mae Morgan yn goresgyn ei anabledd trwy ragori mewn cyfeiriadau eraill.
"Roedd gen i ewythr oedd yn ddall ac mae hynny yn rhywbeth sy'n agos at fy nghalon i ac roedd o yn dweud o hyd, 'Mae gan bawb wendid mae gan bawb anabledd a'r ffordd i ddod drosto yw defnyddio pob dim arall sydd gynno chi'," meddai Llinos.
"A dyna'n union mae Morgan yn ei wneud a dwi'n gobeithio mai dyna ydi'r neges neith o yrru i blant bach hefyd," ychwanegodd..
A'r tebygrwydd yw y cyhoeddir rhagor o straeon Morgan yn y dyfodol gan fod gan Llinos syniadau eraill.
"Dwi jyst wrth fy modd sgwennu i blant. Mae o'n sgwennu mor syml a dwi'n cael rywbeth mawr allan o'r ffaith fod plant yn darllen fy llyfrau i ddysgu darllen hefyd," meddai wrth Caryl.
Gwasg Carreg Gwalch sy'n cyhoeddiMorgan y Gath Ddall gan Llinos Griffin yn seiliedig ar syniad gan Sioned Morys. Lluniau gan José SolÃs. £5.50.