Â鶹Éç

Edwin C Lewis - Mil a Mwy o Weddïau

Llun oddi ar glawr y llyfr

23 Mawrth 2010

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Mae awdur sydd wedi cyhoeddi casgliad o fil a mwy o ddyfyniadau Cymraeg yn awr wedi cyhoeddi casgliad tebyg o weddïau.

Wrth sôn am Mil a Mwy o Weddïau ar Bwrw Golwg ar Â鶹Éç Radio Cymru dywedodd y Parchedig Dr Edwin C Lewis mai ei anhawster pennaf oedd cyfyngu ei hun i fil o weddïau gan fod cymaint o rai da ar gael.

"Yr oeddwn i'n dewis rhai oedd yn dangos coethder iaith, dychymyg, agosatrwydd at Dduw ," meddai.

Clawr y gyfrol

"Ond cofiwch nid dim ond fi oedd yn gwneud y dewis gan fod rhai gweddïau yn neidio allan o'r llawysgrifau a gafael yno fi'n dyn wrth fy ngwddf a dweud 'Myn fi yn dy gasgliad!'" ychwanegodd.

Dywedodd i'r gweddïau a ddewisodd rychwantu cyfnod cynnar y Testament Newydd a heddiw.

Cymeriadau gwych

"Trefn amseryddol sydd gyda fi, rwy'n dechrau â'r Testament Newydd a dyma beth dwi wedi'i ddysgu, fod cymeriadau gwych wedi byw cyn ein geni ni, gwragedd a dynion oedd wedi byw bywyde cyflawn yn ôl y Gair a'r Gair oedd Iesu Grist. Gweddïau Cristnogol yw'r rhain i gyd," meddai.

Ymhlith y gweddïau yn y llyfr mae Gweddi'r Orsedd.

Dywedodd iddo ddechrau'i gasgliad gyda'r Llyfr Gweddi Cyffredin.

"Ac wedyn, roeddwn i'n gallu mynd nôl at y Testament Newydd a chasglu'r ffrwyth oedd yno ac agor y drws; yr Eglwys Geltaidd, y Tadau Cynnar. Yr oedd hwn yn llifo - doedd dim digon o bapur i'w gael i gynnwys popeth.

"Pe byddwn i wedi dewis testun fel pum cant o weddïau fe fyddwn i wedi gorffen y gwaith mewn chwinciad ond roedd mil yn gofyn am ddewis a'r dewis [hwnnw] yn dewis ei hunan yn y diwedd," meddai.

Hoff weddïau

O'r holl weddïau yn y gyfrol dewisodd dair hoff weddi

Un gan John Henry Newman: "Arglwydd cynnal ni drwy gydol dydd ein bywyd blin hyd oni estynnodd cysgodion a dyfod yr hwyr, distewi o ddwndwr byd, tawelu o dwymyn bywyd a gorffen ein gwaith. Yna, Arglwydd, yn dy drugaredd dyro i ni lety diogel, gorffwysfa sanctaidd a thangnefedd yn y diwedd."

Dyfynnodd hefyd weddi gan y diweddar Athro Cyril Williams, Athro a Deon yr adran ddiwinyddol ym Mhrifysgol Llambed. "A does dim i'w gael yn well na hyn," meddai....

"O ran y gwelwn o Arglwydd; maddau i ni am ystyried mai'r rhan yw'r cyfan."

"Ac mae un bach yr un seis da fe eto: Arglwydd trugarha wrth y rhai sydd â llygaid ganddynt ond yn ddall."

  • Yn frodor o Gwm Tawe bu'r Dr Edwin Lewis yn dysgu yng Ngorllewin Morgannwg ac yn brifathro ysgol Gymraeg am bymtheng mlynedd cyn ymddeol yn gynnar.

    Enillodd ddoethuriaeth am astudiaeth yn ymwneud â darpariaeth a datblygiad Addysg Ddwyieithog.

    Yn Anglican yn wreiddiol gadawodd ac ymaelodi â'r Annibynwyr a gweinidogaethu yn Llanbedr-pont-Steffan a'r cylch ac ym Mheniel, Bwlch-y-corn a Nebo Llanpumsaint.

    Yn 2007 cyhoeddodd Gwasg Gomer ei gasgliad o ddyfyniadau, Mil a Mwy o Ddyfyniadau.

    Cyhoeddir ei gyfrol ddiweddaraf gan Gyhoeddiadau'r Gair, £16.99.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.