13 Gorffennaf 2009
Cyfarwyddwr newydd Cyngor Llyfrau Cymru yn ateb ein cwestiynau am lyfrau a 'ballu
- A wnewch chi ddweud ychydig am eich swydd newydd?
Yr wyf newydd fy mhenodi'n Gyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru a byddaf yn ymgymryd â'm dyletswyddau newydd ym mis Tachwedd. - Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
- O ble'r ydych chi'n dod?
- Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
- Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
- Beth sy'n eich calonogi am gyhoeddi yng Nghymru?
- Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
- A fyddwch yn edrych arno'n awr?
- Pwy yw eich hoff awdur?
- A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
- Pwy yw eich hoff fardd?
- Pa un yw eich hoff gerdd?
- Pa un yw eich hoff linellau o farddoniaeth?
- Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
- Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
- Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
- Pa ddawn hoffech chi ei chael?
- Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
- Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
- Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
- Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
- Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
- Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
- Pa un yw eich hoff liw?
- Pa liw yw eich byd?
- Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
- Oes yna ddyfodol i lyfrau?
Bum yn ddirprwy drefnydd Eisteddfod yr Urdd ac yn Swyddog Marchnata gyda chwmni cysylltiadau cyhoeddus Stratamatrix. Ymunais â'r Cyngor Llyfrau yn 1997 fel Swyddog Marchnata.
O'r Bala.
Aberystwyth.
Bu'r cyfnod yn Ysgol Gynradd Y Bala ac Ysgol y Berwyn yn gyfnod hynod o hapus. Treuliais bedair blynedd yn astudio Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin - amser difyr iawn.
Brwdfrydedd awduron, cyhoeddwyr a llyfrwerthwyr Cymru sydd bob amser eisiau'r gorau i'r darllenwyr.
Roeddwn wrth fy modd yn darllen y straeon amrywiol yng nghyfrolau Llyfr Mawr y Plant - yn enwedig stori Wil Cwac Cwac.
Daeth ailgyhoeddi casgliad o'r straeon â nifer o atgofion melys yn ôl.
Anodd iawn enwi un ond rwy'n edmygu gwaith Caryl Lewis, Wiliam Owen Roberts ac Aled Jones Williams yn arw.
Yn Saesneg, mae ysgrifennu sensitif Stevie Davies a Lloyd Jones yn ysgytwol.
Fe wnaeth nofel Marged, T Glynne Davies argraff ddofn arnaf pan oeddwn yn yr Ysgol Uwchradd.
Myrddin ap Dafydd - â'i ddawn i gyflwyno gwirioneddau mewn iaith syml.
Y Clwb Jazz, Dafydd John Pritchard - sy'n dod ag atgofion melys yn ôl.
Hen linell bell nad yw'n bod
Hen derfyn nad yw'n darfod.
Ffilm - Twelve Angry Men.
Teledu - Teulu.
Hoff gymeriad - Winni Ffinni Hadog.
Cas gymeriad - Mrs Danvers - Rebecca, Daphne du Maurier.
Deuparth gwaith yw ei ddechrau.
Dawn Caryl Lewis gyda geiriau a dawn Bryn Williams yn y gegin.
Brwd,
Penderfynol,
Cyfeillgar.
Gwynfor Evans - am ei gred di-syfl yn nyfodol Cymru a'r Gymraeg.
Cerdded hefo Nelson Mandela i'w ryddid.
George Bush - Pam na wnest ti wrando?
Sgallops i ddechrau, ffiled oen a phwdin lemon mam - a hynny yng nghwmni ffrindiau.
Darllen wrth gwrs ac arbrofi wrth goginio.
Coch, Gwyn a Gwyrdd.
Amryliw.
Caniatáu i Elwyn Jones yrru'n gyflymach ar draffyrdd!
Oes yn sicr. Fe fydd llyfrau printiedig ac e-lyfrau i'w cael ochr yn ochr am flynyddoedd ac yn rhoi'r un pleser ag erioed i ddarllenwyr.