Bydd o leiaf 13,000 o blant ar hyd a lled Cymru yn cymryd rhan mewn diwrnod cenedlaethol i gofio y diweddar T Llew Jones ar Hydref 9 eleni.
Bydd gweithgareddau mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad ar y diwrnod - y diwrnod ysgol agosaf at ddydd ei ben-blwydd, Hydref 11.
Ar ddiwrnod ei ben-blwydd bydd gwasanaeth arbennig ym mhentref Chwilog o ble daeth y syniad gwreiddiol i gynnal diwrnod i ddathlu cyfraniad awdur llyfrau plant mwyaf cynhyrchiol y Gymraeg a fu farw fis Ionawr 2009.
'Royal Charter'
A chan ei bod hi hefyd yn 150 o flynyddoedd ers llongddrylliad y Royal Charter oddi ar arfordir Môn yn 1859 dywed Cyngor Llyfrau Cymru i nifer o ysgolion ddewis gwneud gwaith creadigol yn seiliedig ar y gyfrol Ofnadwy gan T. Llew Jones, sy'n adrodd hanes y drychineb.
Barod, mae'r Cyngor Llyfrau wedi dosbarthu taflen liwgar yn rhoi hanes bywyd a gwaith y nofelydd, storïwr a bardd a thaflen ar gyfer ysgolion yn cynnwys syniadau creadigol ar sut i ddathlu'r achlysur.
Trefnwyd cystadlaethau llenyddol hefyd, fel llunio parodi ar y gerdd Cwm Alltcafana cherdd yn dechrau gyda'r geiriau Ddoi di gen i . . . ynghyd â llunio stori'n seiliedig ar Tân ar y Comin.
Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi yn Barddas a'r stori fuddugol yn Cip, un o gylchgronau'r Urdd.
Digon o weithgarwch
"Gwyddom eisoes fod o leiaf 13,000 o blant mewn ysgolion ledled Cymru yn cymryd rhan yn y dathliadau a disgwylir y bydd llawer mwy yn ymuno yn y dathlu. Mae digon o weithgarwch hefyd yn digwydd mewn llyfrgelloedd a siopau," meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru.
A chan mai disgyblion Ysgol Chwilog, Gwynedd, drawodd ar y syniad yn y lle cyntaf o gael Diwrnod Cenedlaethol i gofio T. Llew Jones, bydd yr ysgol yn agor ei drysau i bobl y pentref a gwahoddedigion ar y diwrnod i ddod i weld gwaith y plant ar T Llew Jones.
"Y plant eu hunain gafodd y syniad ac mae hynny'n arwydd o'r mwynhad maent wedi'i gael dros y blynyddoedd o ddarllen ei lyfrau," meddai Edward Elias, Pennaeth yr ysgol, pan wyntyllwyd y syniad gyntaf.
Ac ar ddydd Sul, Hydref 11, diwrnod ei ben-blwydd, bydd oedfa arbennig yng Nghapel Uchaf, Chwilog, lle bydd Myrddin ap Dafydd a Menna Lloyd Williams yn annerch a diolch am fywyd a gwaith yr awdur.
Bydd dathliadau hefyd yng Ngheredigion yn ystod y penwythnos.
Ddim yn syndod
"Dyw hi ddim yn syndod o gwbl fod ymateb mor syfrdanol wedi bod i'r diwrnod i goffáu T. Llew Jones. Mae'r gweithgareddau fydd yn digwydd ym mhob cwr o Gymru yn brawf o flaengaredd ysgolion a brwdfrydedd heintus yr athrawon yn ogystal â gwir awydd i goffáu un o fawrion llenyddiaeth plant," meddai Menna Lloyd Williams.
"Byddai T Llew wrth ei fodd o wybod y bydd plant o bob rhan o Gymru yn dathlu ei gyfraniad mawr i faes llyfrau plant," ychwanegodd.
Athro a phrifardd
Athro oedd T Llew Jones wrth ei alwedigaeth ond enillodd ei blwyf fel prif lenor plant Cymru gan ennill Gwobr Tir na n-Og ddwywaith gan gynnwys y wobr y tro cyntaf y'i dyfarnwyd yn 1976.
Enillodd hefyd Dlws Mary Vaughan Jones yn 1991 am ei gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.
Yr oedd hefyd yn brifardd ac yn un o gynganeddwyr gorau'r Gymraeg ac wedi sgrifennu nifer o lyfrau i oedolion hefyd.
Yr oedd yn 93 oed pan fu farw fis Ionawr 2009.