Ar drywydd mawrion llenyddiaeth
Mae'r Academi yn trefnu cyfres o wibdeithiau llenyddol o gwmpas cynefin chwech o awduron - yn amrywio o Ddafydd ap Gwilym i'n Harchdderwydd presennol, Dic yr Hendre.
Mae'r gwibdeithiau yn cynnwys ymweliadau â lleoliadau pwysig ym mywyd a gwaith yr awduron, darlleniadau o'u gwaith a chyfle i glywed beth sydd gan arbenigwyr i'w ddweud amdanynt hwy a'u gweithiau.
Yng Ngheredigion mae diwrnod gyda'r Bardd Cenedlaethol Gillian Clarke a'r Archdderwydd Dic Jones. Yng Nghwm Clydach dilynir ôl troed yr awdur adain chwith, Lewis Jones.
Mae ymweliad hefyd ag ardal Waldo Williams, un o feirdd mwyaf blaenllaw y Gymraeg neu gellir mentro'n ôl i'r Canol Oesoedd, chwedl Yr Academi i glywed cyfrinachau am Ddafydd ap Gwilym.
"Mae'r Academi'n gobeithio fod y gyfres hon o wibdeithiau yn cynnig rhywbeth at ddant pawb," meddai lleafrydd
. I wireddu'r cynllun mae'r Academi yn defnyddio Gwobr Cwmni Disglair 2008-10 gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o gynllun twristiaeth lenyddol - yr un nawdd ag a ddefnyddir i hybu cynllun y Bardd Cenedlaethol a Sgwadiau `Sgwennu'r Ifainc.
"Mae ymweld â llefydd sy'n gysylltiedig ag awduron - y llefydd ble buont yn cerdded, yn byw, yn creu - yn gallu bod yn hynod foddhaus. Mae'n fraint ymweld â'r llefydd a daniodd eu gweithiau mawr. Arweinir gwibdeithiau'r Academi gan dywyswyr gwybodus," meddai Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi.
Mae pob gwibdaith yn cynnwys cinio a seibiau coffi mewn lleoliadau arbennig a chost tocyn ar gyfer un wibdaith fydd £37 - neu £35 ar gyfer Aelodau a Chefnogwyr yr Academi).
Manylion y teithiau:
Waldo Williams yn Sir Benfro, Sadwrn 9 Mai 2009 - Cychwyn a gorffen yng Nghaerfyrddin. Gwibdaith trwy gyfrwng y Gymraeg heb gyfieithiad Saesneg.
Yr oedd Waldo Williams (1904 - 1971) yn un o feirdd Cymraeg mwyaf blaenllaw yr ugeinfed ganrif. Roedd hefyd yn enwog am ei ddaliadau heddychol, am fod yn ymgyrchwr gwrth ryfel ac yn genedlaetholwr Cymraeg. Dengys ei farddoniaeth amrywiaeth o ddylanwadau, o William Wordsworth a Walt Whitman i emynau Cymraeg a mesur caeth y gynghanedd. Cynlluniwyd y daith gan y Dr Damian Walford Davies, darlithydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ymwelir â lleoedd fel Capel Brynconin, safle bedd teulu Waldo, Carreg Waldo yn Rhos-fach ger Mynachlog-ddu a man addoli'r Crynwyr yn Aberdaugleddau.
Roland Mathias yn Nhal-y-bont ar Wysg, Sadwrn 13 Mehefin 2009. Cychwyn a gorffen yng Nghaerdydd Gwibdaith Saesneg.
Ganed Roland Mathias (1915 - 2007) yr awdur a'r beirniad llenyddol, yng Nglyn Collwn (safle presennol cronfa ddŵr Talybont) ac fe'i claddwyd ym mynwent y capel yn Aber. Yn ystod y wibdaith edrychir ar ei waith trwy'r cerddi a ysgrifennodd amdano'i hun, ei deulu a thirlun ei ieuenctid. Dan arweiniad Sam Adams a bydd Dr John Pikoulis, Cyd-gadeirydd yr Academi, yn trafod ei farddoniaeth. Bydd mab y bardd, Glyn Mathias, yn cyfrannu o ffrwyth ei ymchwil yntau i hanes y teulu.
Gillian Clarke a Dic Jones yng Ngheredigion, Sadwrn 11 Gorffennaf 2009. Cychwyn a gorffen yn Aberystwyth Gwibdaith ddwyieithog gyda chyfieithiad Saesneg.
Diwrnod yng nghwmni dau awdur cyfoes: Gillian Clarke yn Fardd Cenedlaethol Cymru a Dic Jones, neu 'Dic yr Hendre' yn Archdderwydd. Ymwelir â Thalgarreg, cartref Gillian Clarke, a Pisgah gyda'r awduron yn darllen eu gwaith ac yn sgwrsio'n anffurfiol.
Lewis Jones yng Nghwm Clydach, Sadwrn 19 Medi 2009 gan gychwyn gorffen yng Nghaerdydd. Gwibdaith Saesneg.
Bydd y daith yn dilyn Afon Clydach, heibio i ddau lyn ac i ganol y mynyddoedd yn ogystal ag ymweliad â safle hen bwll glo y Cambrian sy'n ganolog i'r nofelau Cwmardy a We Live.
Ymwelir hefyd â safleoedd dau o gyn-gartrefi Jones; un lle sgrifennodd ei ddwy nofel gyda'r Dr Ben Curtis yn trafod hanes cymdeithasol a gwleidyddol y cwm a'r Dr John Pikoulis, Cyd-gadeirydd yr Academi, yn trafod personoliaeth Jones yng ngoleuni Cwmardy.
Dafydd ap Gwilym yng Ngheredigion, Sadwrn 24 Hydref 2009 gan gychwyn a gorffen yn Aberystwyth. Gwibdaith Gymraeg yn unig.
Yng nghwmni'r Dr Huw Meirion Edwards, Darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, ymwelir â Brogynin lle tybir y ganwyd Dafydd ac wedyn Eglwys Llanbadarn, lleoliad ei gerdd Merched Llanbadarn ac Ystrad Fflur gan giniawa yn y Talbot Tregaron..