- Enw:
Rhiannon Wyn. - Beth yw eich gwaith?
- Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
- O ble'r ydych chi'n dod?
- Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
- Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
- Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dwedwch ychydig amdano?
- Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
- Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
- A fyddwch yn edrych arno'n awr?
- Pwy yw eich hoff awdur?
- A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
- Pwy yw eich hoff fardd?
- Pa un yw eich hoff gerdd?
- Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
- Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
- Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
- Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
- Pa un yw eich hoff air?
- Pa ddawn hoffech chi ei chael?
- Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
- A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
- Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
- Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
- Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
- Pa un yw eich hoff daith a pham?
- Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
- Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
- Pa un yw eich hoff liw?
- Pa liw yw eich byd?
- Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
- A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
- Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Storïo a sgriptio i Rownd a Rownd, ond 'dw i hefyd wedi sgriptio i Pobol y Cwm.
Check-out chick yng Nghaernarfon, gweini (yn wael) yn Sydney.
O'r Groeslon, ger Caernarfon.
Llanwnda, ger Caernarfon. Er i mi fod rownd y byd, tydw i heb fynd yn bell!
Do, er i mi gael cyfnodau o ddiogi ac apathi
Mi fues i ar gwrs 'sgwennu ar gyfer pobl ifainc a derbyn comisiwn gan y Lolfa wedi hynny. Mae'n debyg mod i wastad wedi meddwl 'sgwennu llyfr ond heb gael yr hyder na'r ddisgyblaeth o'r blaen.
Mae hi'n nofel am ferch ifanc unig sy'n byw hefo rhieni boncyrs ac yn gwneud ffrindiau gydag ysbryd dynes sy'n sownd yn ei chartref.
Hon oedd fy nofel gyntaf.
Y Geiriadur Lliwgar. Cyfoeth o wybodaeth ac ro'n i'n gwybod lle roedd yr hwyaden ar bob tudalen cyn ei throi!
Does gen i ddim copi personol yn anffodus
Amhosib dewis... dw i 'di cael blas ar llyfrau Khaled Hosseini yn ddiweddar. 'Dw i hefyd yn hoff o John Irving, Haruki Murakami a Nam Le. Yn y Gymraeg, Mihangel Morgan, Caradog Prichard ac Angharad Price.
'Dw i'n cofio crio ar draeth ar fy ngwyliau wrth ddarllen O! tyn y Gorchudd gan Angharad Price. Roedd y 'sgwennu mor gynnil a synhwyrus. Dw i'n gobeithio na welodd neb
Does gen i ddim un yn benodol
Dychwelyd gan T.H. Parry-Williams, neu If gan Rudyard Kipling.
"Ac wedi elwch, tawelwch fu
Hoff ffilm: When Harry met Sally, Amelie, neu American Beauty.
Hoff raglen: The Sopranos,The West Wing, Frasier a gwell i mi ddeud Rownd a Rownd!
Hoff gymeriad: Damian Cunningham, y bachgen bach yn Millions gan Frank Cottrell Boyce am ei ddiniweidrwydd, ei anwyldeb a'i ddyfeisgarwch.
Neu Adrian Mole, mae hwnnw wastad yn gwneud i mi chwerthin. Alla i ddim meddwl am neb 'dw i'n ei gasáu...
A heuir a fedir.
Mifi-mihafan. Ydi o'n cyfri fatha dau air?
Medru canu nes gyrru ias.
Chwilfrydig,
Breuddwydiol,
Sensitif.
Lle mae dechrau?
! Meddwl a phoeni gormod am bopeth...
Che Guevara. Chwydroadwr deallus (a pishyn!)
Glanio ar y lleuad, yn enwedig ar ôl darllen a gwylio rhaglenni diweddar am y 40 mlwyddiant.
Che Guevara. Beryg y buaswn i'n rhy nerfus i siarad...
Y daith i'r maes awyr cyn mynd ar fy ngwyliau.. cymysgedd o gyffro a chwilfrydedd. Neu unrhyw daith ar ddŵr. Ma 'na rwbath heddychlon am deithio ar ddŵr.
Cyrri Thai poeth a gwin gwyn oer.
Teithio, gweld ffrindiau, chwarae pêl-rwyd, nofio, darllen.
Coch.
... dibynnu ar y diwrnod.
Unrhywbeth i adfer parch rhwng pobl a'i gilydd.
Dw i newydd dderbyn comisiwn i 'sgwennu eto ar gyfer plant ond rhai hŷn y tro yma. Mater o ddechrau arni rŵan...
Dal i chwilio..!
Gorffennaf 2009