A hithau yn ganmlwyddiant ei eni, Tachwedd 12, 2011, mae hwn yn gyfle i edrych unwaith eto ar fywyd a gyrfa un o gymeriadau mwyaf enigmatig llenyddiaeth Gymraeg.
Yn ysgolhaig, yn ddiwinydd, yn ymgyrchydd iaith ac yn Gristion blaengar yr oedd Pennar Davies, fel yr enwodd ei hun, yn nofelydd, yn fardd ac yn ysgolhaig y cyfeiriwyd ato gan fwy nag un fel polymath.
Ar wahân i'w athrylith gydnabyddedig rhan o'i hynodrwydd oedd llwybr annisgwyl ei yrfa.
Aelwyd Saesneg
Ar aelwyd Saesneg y magwyd William Thomas Davies a anwyd yn 11 Duffryn Street, Aberpannar, Tachwedd 12, 1911, i rieni na welent fawr o fudd yn y Gymraeg er bod y tad, Joseph Davies, yn medru'r iaith.
Ond gyda'r fam, Annie (Moss, cyn priodi) yn ddi Gymraeg o Sir Benfro, Saesneg oedd iaith yr aelwyd.
Glöwr oedd Joseph ond er mor llwm oedd amgylchiadau'r teulu oherwydd anafiadau a ddioddefodd y tad llwyddwyd i gael unig fab y teulu trwy goleg diolch yn bennaf i nawdd Americanes gyfoethog, Mrs Fitzgerald.
Graddiodd mewn Lladin a Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd gan ennill wedyn radd B.Litt yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, a symud ymlaen i Brifysgol Iâl yn yr Unol Daleithiau lle'r enillodd ddoethuriaeth am astudiaeth o gomedïau un o gyfopedion Shakespeare, George Chapman.
Ar ei ddychweliad astudiodd ddiwinyddiaeth a Hebraeg yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen.
Adeg yr Ail Ryfel Byd yr oedd yn wrthwynebydd cydwybodol a rhoddodd hynny ddiwedd ar nawdd y weddw o America a throdd yntau ei olygon tuag at y weinidogaeth.
Yn Rhydychen, eto, syrthiodd mewn cariad a nyrs o dras Iddewig ar ffo o'r Almaen a maes o law priododd ef a Rosemarie Wolff.
Yn y pedwardegau hefyd y mabwysiadodd yr enw Pennar Davies ac yr oedd, yn groes i dueddiadau'r cyfnod wedi ymroi i ddysgu Cymraeg yn rhugl.
Dirgelwch
Mae'n rhywfaint o ddirgelwch beth oedd yr union symbyliad, hyd yn oed i'w fab ei hun, Owain Pennar.
"Dwi'n dal heb fod yn deall yn iawn sut y syrthiodd mewn cariad â'r iaith a'r diwylliant Gymraeg yn y dau a'r tri degau pan oedd mor anffasiynol i wneud hynny," meddai mewn erthygl yn y Western Mail heddiw, Tachwedd 12, 2011.
Ond yr un peth nad oes amheuaeth ynghyn ag ef yw iddo ddod yn Gymro Cymraeg di-ildio.
Bu'n aelod o'r gymdeithas o feirdd, Cylch Cadwgan, yn ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru ac yr oedd â rhan annisgwyl, fel prifathro coleg diwinyddol, yn yr enwocaf o brotestiadau teledu y Saithdegau pan feddiannodd ef, Ned Thomas a Meredydd Evans drosglwyddydd Pencarreg yn 1979 gan arwain at orfodi llywodraeth Thatcher maes o law i newid ei meddwl a sefydlu S4C.
Yr oedd hefyd wedi cynnig ymuno ag ympryd Gwynfor Evans dros sefydlu sianel deledu Gymraeg.
"Roedd e'n credu fel Gwynfor Evans bod sefydlu Sianel yn hollol allweddol i ddyfodol yr iaith Gymraeg a bod ymprydio yn ffordd ddi-drais hollol gyfiawn dros ymgyrchu i sicrhau bod y llywodraeth yn newid ei meddwl," meddai Owain Pennar wrth gael ei holi yn Y Cymro Tachwedd 11, 2011.
"Roedd e'n gallu cyfiawnhau'r fath weithred am ei fod yn gredwr mawr yn y dulliau di-drais o weithredu a ddefnyddiodd Mahatma Gandhi," ychwanega.
Dywed y credai hefyd y credai y galai berswadio arweinwyr crefyddol eraill i ymuno ond o ran Gwynfor Evans ei hun, er yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth, credai mai ar ei ben ei hun y dylai weithredu.
Fel mae'n digwydd newidiodd y llywodraeth ei meddwl beth bynnag a chanitau sefydlu S4C.
Ond mae Owain Pennar yn cofio'r cyfnod fel un anodd:
"Roedd yn gyfnod anodd iawn innni fel teulu ac yn enwedig i fy Mam a oedd wedi ei magu yn Almaenes o dras Iddewig o dan y Natsïaid ac yn poeni yn naturiol beth fyddai canlyniad herio awdurdod," meddai wrth Y Cymro.
Pwyso a mesur
Am yrfa Pennar Davies mae'n gwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml beth fyddai hynt un mor ddisglair wedi bod pe byddai wedi parhau ar lwybr Saesneg a heb fod wedi bwrw ei goelbren i ymroi i achos Cymru, yr iaith Gymraeg, ei diwylliant a'r grefydd ymneilltuol a ddaeth yn gynyddol bwysig iddo wedi tröedigaeth, yn oedolyn, i Gristnogaeth.
Y farn gyffredin yw y byddai wedi dod yn enw o bwys y tu allan i Gymru gyda'i arddull unigryw, treiddgarwch ei feddwl ac eangder ei wybodaeth ac mae hwn yn drywydd y mae Archesgob Caergaint, Rowan Williams , yn ei ddilyn mewnm cyflwyniad i gyfieithiad newydd o un o lyfrau Pennar Davies, Diary of a Soul (Cudd fy Meiau yn y Gymraeg wreiddiol).
"Y mae'n anodd peidio â dod i'r casgliad y byddai ei enw yn cymryd ei le mewn cylch dyrchafedig yn genedlaethol," meddai oherwydd ei sylwebaeth gymdeithasol finiog a'i fyfyrdodau unigolyddol ar y ffydd Gristnogol.
"Ond rhan o'r hyn sydd gan Pennar i'w ddweud yw nad yw gwneud enw nac yma nac acw: yr hyn sy'n bwysig yw onestrwydd [integrity]," meddai gan fynd ymlaen i'w ddisgrifio fel un o leisiau pwysicaf y duiwylliant Cymraeg.
Dyfnder ysbrydol
Mae'n talu teyrnged i'w ddyfnder ysbrydol a'i dreiddgarwch.
"Ond yn nghalon popeth y mae dwy thema gyson. Mae yna'r ymdrech i fod yn gwbl onest ynglŷn â themtasiwn a methiant, waeth pa mor ddibwys. Ac y mae yna'r ymroddiad angerddol i berson Iesu," meddai am un y mae'n ei ystyried yn "un o leisiau mawr Cristnogol ein hoes.
"yn anad dim, dyma ddyn sy'n mynegi ei gred trwy gariad at Dduw ac at gyd-ddyn, ac a fu'n gweithio'n egniol inni gael gweld y goleuni mewnol yn disgleirio yn ein calonau," meddai.
Mewn cyfrol arall a gyhoeddwyd i gyd-fynd a chanmlwyddiant ei eni mae Ivor Thomas Rees, awdur Saintly Enigma, cofiant Pennar Davies, yn ei ddisgrifio fel "dyn mawr yn gorfforol ac yn feddyliol ac yn ysbrydol" ond â'i wyleidd-dra bob amser yn amlwg.
Ac mae'n tau teyrnged iddo am rannu ei wybodaeth a'i weledigaeth gyda chymaint o haeioni.
Ond yn arwyddocaol iawn ychwanega, er mor barod oedd o i rannu y pethau hyn ychydig iawn o wybodaeth a rannai amdano ei hunan.
Rhai o'i lyfrau
Cyhoeddodd Pennar Davies rai cerddi Saesneg dan yr enw "Davies Aberpennar" cyn canolbwyntio ar ei weithgarwch yn y Gymraeg. Cyhoeddodd nofelau sydd, yn ôl un beirniad, yn "anghyffredin yn eu cyfuniad o symbolaeth fytholegol a thynerwch personol".
- Anadl o'r Ucheldir (1958)
- Meibion Darogan (1968)
- Mabinogi Mwys (1979)
- Gwas y Gwaredwr (1991)
Chwe chasgliad o farddoniaeth
- Cinio'r Cythraul (1946)
- Cerddi Cadwgan (gydag eraill 1953)
- Naw Wfft (1957)
- Efrydd o Lyn Cynon (1961
- Y Tlws yn y Lotws yn 1971
- Llef (1987)
Cyfrolau diwinyddol
- Y Brenin Alltud (1974)
- Rhwng Chwedl a Chredo
Dau gasgliad o straeon byrion
- Caregl Nwyf (1966)
- Llais y Durtur (1985)
A'r gyfrol 'Cudd fy Meiau' (1957)
Bu farw yn Abertawe, Rhagfyr 29, 1996.
I nodi'r canmlwyddiant cyhoeddwyd dwy gyfrol Saesneg gan Y Lolfa:
Saintly Enigma - A Biography of Pennar Davies gan Ivor Thomas Rees. £9.95 a
Diary of a Soul. Cyfieithiad Herbert Hughes o Cudd fy Meiau gan Pennar Davies. £9.95.