Yn ddiamau mae Harri Parri yn sgrifennwr straeon ysgafn gorau'r Gymraeg gyda'i enw'n cael ei grybwyll ochr yn ochr os nad ar y blaen i gewri W J Gruffydd Henllys Fawr a Tom Parri Jones Teisennau Berffro.
Ym 1972 yr ymddangosodd ei gyfrol gyntaf O Lun i L欧n - ond bach iawn o groeso a gafodd honno ar yr aelwyd gartref fel y datgelodd yn ystod sgwrs a Dei Tomos ar 麻豆社 Radio Cymru nos Sul Medi 20 2009.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
"Mi gyflwynais i hi i Mam i gofio Nhad ac wedi i'r nofel gyrraedd o'r wasg - ogla print ffresh, y clawr yn sgleinio - mi es a hi a'i rhoi ar y bwrdd i Mam heb ddweud am y cyflwyniad.
A phen rhyw chwarter awr dyma Mam yn 么l o'i stafell i'n stafell ni a lluchio'r llyfr ar y bwrdd a dweud, 'Os wyt ti am sgwennu rhywbeth i gofio dy Dad a minna sgwenna rywbeth callach na hwnna.'
"Ac ar y funud roedd o'n brifo," meddai.
Ond ychwanegodd bod ei fam yn perthyn i oes Victoria a'r difrif oedd yn bwysig iddi.
"Roedd dychymyg yn bechod bron yn nyddiau Daniel Owen a chyn hynny . . . ac yr oedd Mam yn dal peth o hwnna ac yn dal i feddwl felna yn ei chyfnod hi," meddai.
Ond iddo ef, fel awdur, dywedodd fod ysgrifennu doniol ac ysgafn yn haeddu cael ei drin gyda'r un parch a sgrifennu difrif ac mai'r un yw'r canonau ar gyfer pwyso a mesur.
Sgrifennu yn ddihangfa
Datgelodd mai "dihangfa" oedd sgrifennu ysgafn a doniol iddo yn y lle cyntaf:
"Mi gefais i gyfnod anhapus iawn yn y weinidogaeth - unwaith - pan oeddwn i'n ifanc Un peth oedd yn fy mhoeni fi oedd fod yr holl arian yn mynd i gynnal dau beth; y gyfundrefn, y sefydliad, a'r dyn yn gweithio i'r gyfundrefn, sef y fi, felly.
"Hynny yw fod cadw'r caets a chadw'r bwji yn mynd 芒'r pres i gyd a'r holl angen a newyn yn y byd Roedd hynny yn fy mhryderu i am gyfnod ac mi ddechreuais i sgwennu i gael dihangfa dwi'n meddwl," meddai.
"Pethau oeddwn i'n anghytuno efo nhw neu ddim yn hapus yn eu cylch nhw doedd waeth imi heb na dwrdio, doedd neb yn gwrando beth bynnag ond o sgwennu amdanyn nhw yn yr idiom yma roeddwn i'n cael rhyw fath o ddihangfa.
"A'r nofel sgrifennais i yn 1972, O Lun i L欧n dihangfa oedd sgwennu hwnnw i gychwyn.
"Does neb yn cofio am y nofel heddiw mae wedi mynd i blith y pethau fu ond ar y pryd ges i bleser o'i sgwennu hi a'i chreu hi ac o bosib cafodd rhai pobl bleser o'i darllen hi," ychwanegodd.
Wrth s么n am y berthynas agos rhwng y dwys a'r digri dywedodd:
Dod yn rhwyddach
Dywedodd mai rheswm arall dros ddewis sgrifennu'n ddoniol oedd mai ddeuai rwyddaf iddo.
"Dyna ddaeth yn fwyaf rhwydd imi," meddai gan gyfaddef fod tuedd iddo pan yn sgrifennu am bethau difrifol i lithro i fod yn ddigri heb fwriadu hynny.
"Yn aml iawn, iawn, pobl sy'n amcanu at fod yn ddigri; pobol ddwys ydyn nhw ac mae yna rai mewn bywyd, pobl sydd ar lwyfan yn ddigri ac yn y blaen wedi methu'i gwneud hi. Mae dwyster wedi'u mygu nhw," meddai.
Hoff awduron
Bu'n s么n hefyd am ei hoff awduron:
"Mae o'n faes digon prin. Ychydig iawn sydd wedi ymroi i sgwennu'n ffraeth ei fwyn ei hun. Mae'r rhan fwyaf o awduron, Cymraeg a Saesneg, yn sgwennu nofelau [sydd ond] yn ysbeidiol ddigri. Mae Rowland Hughes yn ddigri iawn ar brydiau . . . mae Daniel Owen yn Rhys Lewis yn ddigri . . . [ond] nid sgrifennu digrifwch ydi eu hamcan nhw," meddai.
"Mae sgwennu digrifwch er ei fwyn ei hun yn wahanol. Pwy sydd yn Gymraeg? Rydych chi'n dechrau efo Winnie Parry, J J Williams a D J Williams ac wedyn mi ddowch at Islwyn Williams ac yna fy arwyr i yn blentyn oedd W J Gruffydd Henllys Fawr a Dewi Williams Clawdd Terfyn na chafodd o mo'i ganmol ddigon.
Mi gafodd o adolygiadau da iawn yn ei gyfnod ond mi ddaru Kate Roberts ei adolygu o yn anffafriol, iawn, iawn, iawn, a wnaeth o ddim sgwennu wedyn ddim byd felna.
"Mi lladdwyd o mewn adolygiad," meddai.
Awduron Saesneg y cyfeiriodd atynt oedd Jerome K Jerome, W W Jacob a'i "arwr mawr" P G Wodehouse.
"Mae hwnnw yn ddigri," meddai.
Pwyslais ar gynildeb
O ran dull o sgwennu yn ysgafn rhoddodd bwyslais ar gynildeb gan nodi'r gwahaniaeth rhwng ffraethineb a ffars.
Mae ffars, meddai, yn gart诺n a phethau wedi eu chwyddo allan o bob rheswm ond i gael stori y gellir ei chredu rhaid ymarfer cynildeb.
"A hwyrach bod yn greulon. Mae'n anodd coelio hwyrach ond mae creulondeb yn arf i sgwennu rhyw fath o ddigrifwch. Fedrwch chi ddim sgwennu am bobl heb s么n am eu gwendidau nhw a'u gwendidau nhw sydd yn ddigri ynde," meddai.
Dywedodd hefyd fod pob byd yn agored i ddigrifwch gyda byd crefydd yn arbennig yn benthyg ei hun i ddigrifwch.
Bu'n s么n hefyd am hiwmor Gwyddelig a hiwmor Pen Ll欧n.
Sut mae gwneud?
"Mae rhai'n gofyn i mi weithiau, Sut mae sgwennu stori fer ffraeth? a'r ateb ydi, darllenwch feirniadaethau John Gwilym Jones, Islwyn Ffowc Elis, Harri Pritchard Jones [ac] mae'n rhaid i'r stori fer ffraeth fod yn ddigri drwyddi. Yn waelodol ddigri a rhaid iddi fod yn ddigri o'r dechrau i'r diwedd," meddai.
"Pan ddarllenwch chi P G Wodehouse mae'r frawddeg gyntaf yn ddigri ac mae'r olaf yn ddigri . Mae'r peth wedi ei gymysgu yn ddigri - nid yn achlysurol ddigri," ychwanegodd
.